Cynlluniwyd y nodyn canllaw hwn i’ch cefnogi wrth baratoi am archwiliadau bwrdd gwaith ar gyfer eich prosiect Llwybr 1 i’w cynnal gan Weithredydd y Rhaglen Taith. Darparwch yr wybodaeth a’r dogfennau a restrir isod hyd eithaf eich gallu. Sylwer y gellir gofyn am wybodaeth ychwanegol yn ystod yr archwiliad ar y safle.
Cynhelir yr archwiliad o bell gan dîm Grantiau a Chyllid Taith.
Mae’r archwiliad bwrdd gwaith yn wiriad sicrwydd lefel uchel.
Gwiriadau
Sylwer efallai na fydd yr holl wiriadau’n berthnasol i’r archwiliadau bwrdd gwaith, gan ddibynnu ar gwmpas y prosiect. Cewch eich hysbysu o flaen llaw am eich archwiliad a’r meysydd i’w hadolygu.
Maint y sampl
Bydd yr archwiliad bwrdd gwaith fel arfer yn gweithio ar sail sampl gan na fydd fel arfer yn ymarferol dilysu’r holl wariant neu weithgaredd o fewn yr amser sydd ar gael i gwblhau’r archwiliad. Yn gyffredinol, bydd y sampl a ddewisir yn cyfateb i o leiaf 10% o werth y prosiect ar gyfer prosiectau mawr (neu 10% o’r cyllid a dynnir hyd yma os yw’r prosiect yn dal i barhau) a 30 – 40% ar gyfer prosiectau llai. Gellir cynyddu maint y sampl ar gyfer pob prosiect yn dibynnu ar ganfyddiadau’r archwiliad.