Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Nodyn canllaw ar gyfer Archwiliad Bwrdd Gwaith Llwybr 1

Tystiolaeth o weithgareddau symudedd a gynhelir

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth y cynhaliwyd gweithgareddau symudedd a bod nifer y cyfranogwyr yn cyd-fynd â nifer y bobl y mae cyllid cost uned yn cael ei hawlio ar eu cyfer. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Ar gyfer gweithgareddau symudedd unigol – datganiad â llofnod a dyddiad, datganiad neu dystysgrif o bresenoldeb. Ar gyfer rhaglenni cyfnewid grŵp – gallai hyn fod ar ffurf taenlen sy’n nodi’r holl gyfranogwyr, a gofyn i bob cyfranogwr lofnodi’r daenlen. 

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: 

Gweithgaredd symudedd unigol: Rhaid dyddio’r datganiad neu’r dystysgrif ar ôl dyddiad olaf y presenoldeb a chynnwys llofnod gan y sefydliadau sy’n anfon ac sy’n derbyn a’r cyfranogwr (neu’r person sy’n mynd gydag ef os yn briodol), gan ddatgan enw cyfranogwyr, diben y gweithgaredd a’r dyddiadau dechrau / dod i ben. 

Gweithgareddau symudedd grŵp: Ar gyfer gweithgareddau symudedd grŵp, pan fydd y cyfranogwr dan 18 oed, byddai taenlen presenoldeb awdurdodedig â llofnod y person cyfrifol yn ddigon. 

Ar gyfer yr holl weithgareddau symudedd, mae angen darparu manylion yr holl sefydliadau partner gyda’r holl ohebiaeth. Rhaid cyfeirio at yr holl ddogfennaeth gan ddefnyddio rhif cyfranogwr Taith a pharu’r holl ddata yn yr adroddiadau. 

Os yw’r dystiolaeth yn anghyflawn neu os oes amheuaeth, dylid ei chyfuno â gwybodaeth arall, e.e. cofnodion o brynu tocynnau teithio; cofnodion o dalu ffioedd cwrs; amserlen neu raglen ar gyfer ymweliad; lluniau o’r digwyddiad; adroddiad neu ddatganiad a ysgrifennwyd yn dilyn y digwyddiad; cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan, ac ati. 

Teithio a Chynhaliaeth: Pan fydd staff eich sefydliad wedi teithio fel rhan o weithgaredd symudedd, ceisiwch dystiolaeth o’u cyfranogiad. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Cofnodion sy’n dangos costau teithio a chynhaliaeth a ad-dalwyd i’r cyflogai; tocynnau teithio neu gadarnhad o archeb; cofnodion dyddiadur.

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: Dylai tystiolaeth gael ei chyfuno â gwybodaeth arall, e.e. gwefan neu broffiliau LinkedIn ar gyfer pobl allweddol, os yw’r dystiolaeth a ddarperir yn anghyflawn neu os oes amheuaeth. 

Adborth gan Gyfranogwyr: Adolygu unrhyw adborth cyfranogwyr sydd ar gael ar gyfer y gweithgaredd symudedd. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Darparwyd adborth yn uniongyrchol i Taith gan gyfranogwyr; coladwyd yr adborth gan gyfranogwyr gan dderbynyddion y grant.

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymwyd: Nid oes rhwymedigaeth arnoch i gasglu adborth neu ei rannu gyda Taith ond gallwch ei rannu os yw ar gael ac maent yn fodlon â hynny.