Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Nodyn canllaw ar gyfer Archwiliad Bwrdd Gwaith Llwybr 2

Amodau cyllido

Os oedd amodau ychwanegol yn gymwys i’r cyllid grant ar y cam dyfarnu, bydd Gweithredydd Rhaglen Taith yn gwirio bod eich sefydliad wedi bodloni’r amodau hyn. 

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Bydd hyn yn dibynnu ar y prosiect – gwiriwch y cais a gymeradwywyd yn wreiddiol i weld beth oedd yr amodau. 

Gofynion penodol am dystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir:  

Mae tri chanlyniad i’r archwiliad bwrdd gwaith.

Boddhaol: mae tystiolaeth yn dangos cydymffurfiaeth lawn â gofynion y canllaw rhaglen. 

Rhannol foddhaol: mae oedi cyn i dderbynnydd y grant ddarparu’r dystiolaeth a/neu mae peth o’r dystiolaeth yn dangos diffyg cydymffurfio â gofynion y canllaw rhaglen, ond mae’r diffyg cydymffurfio yn fach neu gall fod o ganlyniad i gamgymeriad dynol. 

Anfoddhaol: nid oes tystiolaeth ar gael gan dderbynnydd y grant, neu mae’r dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos diffyg cydymffurfio â gofynion y canllaw rhaglen. 

Bydd y tîm Grantiau a Chyllid Taith yn trafod y camau nesaf â chi mewn perthynas â chanlyniad yr archwiliad.