Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch
Cyhoeddi Digidol

Nodyn canllaw ar gyfer Archwiliad Bwrdd Gwaith Llwybr 2

Cymhwysedd Staff

Ar gyfer gweithgareddau symudedd staff, dylid cael tystiolaeth bod y cyfranogwyr yn gyflogedig gan y sefydliad mewn rôl berthnasol ac ar gyfer gweithgareddau symudedd mewnol, bod y staff yn gyflogedig gan sefydliadau cymwys megis prifysgolion neu golegau.

Enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol: Contractau cyflogaeth; cofnodion cyflogres / cyfrifeg; cofnodion corfforaethol megis cofnodion cyfarfod; siartiau sefydliad; cofnodion cronfa ddata staff; ffurflenni hawlio a broseswyd neu daflenni amser ar gyfer gweithwyr dros dro ac achlysurol.

Gofynion penodol ar gyfer tystiolaeth / tystiolaeth ychwanegol a awgrymir: Dylai tystiolaeth gael ei chyfuno â gwybodaeth arall, e.e. gwefan neu broffiliau LinkedIn ar gyfer pobl allweddol, os yw’r dystiolaeth a ddarperir yn anghyflawn neu os oes amheuaeth.