Mae’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (International Learning Exchange Programme Ltd) (“ILEP”, “ni” neu “ninnau”) wedi mabwysiadu, heb addasiad, cynllun cyhoeddi model y Comisiynydd ar gyfer cwmnïau o dan berchnogaeth lwyr.
Mae Taith yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan International Learning Exchange Programme Ltd, is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Caerdydd, fel Gweithrediaeth y Rhaglen. Fel y cyfryw mae rhywfaint o’n gwybodaeth yn enw Taith a/neu International Learning Exchange Programme (ILEP) Ltd ac mae rhai polisïau a gweithdrefnau yn dod o dan ein rhiant-sefydliad, Prifysgol Caerdydd, ac felly ar gael drwy gynllun cyhoeddi’r brifysgol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y dosbarthiadau canlynol o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd:
Gwybodaeth sefydliadol a rolau a chyfrifoldebau
Rôl Taith fel asiantaeth ariannu yw ariannu sefydliadau cymwys i greu cyfleoedd a all newid bywydau bobl yng Nghymru i ddysgu, astudio a gwirfoddoli dros y byd i gyd. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn a wnawn ar gael ar dudalen “Beth rydyn ni’n wneud” o fewn ein hadran ‘Amdanom’.
Bwrdd Cyfarwyddwyr
- Mae manylion ein Bwrdd a’i aelodau ar gael yn ein hadran ‘Pwy ydyn ni’ ein gwefan.
Uwch swyddogion gweithredol
- Mae manylion ein huwch swyddogion gweithredol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau strategol a gweithredol ar gael yn ein hadran ‘Pwy ydyn ni’ ein gwefan.
Bwrdd Cynghori
- Mae manylion ein Bwrdd Cynghori a’i aelodau ar gael ar ein hadran ‘Pwy ydyn ni’ ein gwefan.
Aelodau tîm Taith
- Mae manylion ein tîm o staff sy’n gyfrifol am gyflenwi’r rhaglen o ddydd i ddydd ar gael ar ein hadran ‘Pwy ydyn ni’ ein gwefan.
Lleoliad a manylion cyswllt
Ein cyfeiriad post ac e-bost yw:
Taith
Unedau 5a a 5b
Sbarc
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ
ymholiadau@taith.cymruMae rhai i’n gweld hefyd ar dudalen “Cysylltwch” o fewn ein hadran ‘Amdanom’.
Os oes angen i chi gysylltu â ni mewn cysylltiad â grant cyfredol y mae’ch sefydliad yn ei dderbyn, cysylltwch: ymholiadau@taith.cymru
Erthyglau Cymdeithasu
Mae ein Herthyglau Cymdeithasu ar gael ar Dŷ’r Cwmnïau
Gellir dod o hyd i wybodaeth ariannol sy’n ymwneud ag incwm a gwariant amcanol a gwirioneddol, caffael, contractau ac archwilio ariannol ar Dŷ’r Cwmnïau.
Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant
Mae ein datganiadau ariannol ar gael ar Dŷ’r Cwmnïau.
Mae manylion ein cyllidebau ac adroddiadau ar gael yn ein datganiadau ariannol.
Cyfrifon blynyddol
Mae ein cyfrifon blynyddol wedi’u ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.
Gwariant
Mae manylion ein holl grantiau a ddyfarnwyd ar gael yn adran ‘Canlyniadau’ y wefan.
Strwythur cyflog a graddio staff
Cyflogir yr holl staff gan Brifysgol Caerdydd ac maen nhw wedi’u cynnwys yng ngraddfa cyflog staff cyfredol Prifysgol Caerdydd.
Lwfansau a threuliau staff ac aelodau bwrdd
Nid oes unrhyw aelodau bwrdd wedi hawlio treuliau ers dechrau Taith.
Mae treuliau ar gyfer uwch aelodau staff wedi’u cynnwys yng nghynllun cyhoeddi Prifysgol Caerdydd.
Rhaglen gyfalaf
Nid oes gan Taith gynlluniau mawr ar hyn o bryd ar gyfer gwariant cyfalaf.
Mae manylion ein holl grantiau a ddyfarnwyd ar gael yn adran ‘Canlyniadau’ y wefan.
Gweithdrefnau ac adroddiadau caffael a thendro
Mae Taith yn cadw at weithdrefnau caffael Prifysgol Caerdydd sy’n dilyn polisi caffael cyhoeddus, yn unol â Rheoliadau Cytundebau Cyhoeddus 2015 Mae gennym wybodaeth am gyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i Taith ar gael ar wefan Taith.
Mae manylion ein cyfleoedd cytundeb cyfredol gyda chyfanswm gwerth cytundeb o dros £25,000 yn cael eu hysbysebu trwy Brifysgol Caerdydd ar GwerthwchiGymru, gwefan caffael cenedlaethol Cymru.
Ar gyfer unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch: ymholiadau@taith.cymru
Strategaethau a chynlluniau, dangosyddion perfformiad, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau.
- Mae ein Strategaeth yn amlinellu ein gobeithion a’n huchelgeisiau.
- Mae ein canlyniadau yn dweud wrthych beth yw canlyniadau rhagweledig ein prosiect.
- Mae ein straeon yn dweud wrthych am ein prosiectau bywyd go iawn a’r hyn y maent yn ei wneud.
- Bydd ein hadroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi yn ein cyfrifon blynyddol ar Dŷ’r Cwmnïau a bydd yn manylu ar ein cynnydd yn erbyn ein targedau.
Archif:
Byddwch yn ymwybodol bod y dogfennau yma efallai yn cynnwys hen wybodaeth. I ddarganfod y wybodaeth fwyaf diweddar ewch i’r alwad cyllid neu’r adran berthnasol ar y wefan.
Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau.
- Manylir ein proses penderfyniadau ariannu yn y canllawiau galwadau ariannu perthnasol. Mae’r rhain yn amlinellu sut y caiff ceisiadau eu prosesu a’r meini prawf y cânt eu hasesu yn eu herbyn. Darganfyddid y rhain yn yr adran ‘Archif’ uchod.
- Mae ein canlyniadau ariannu yn nodi pwy sydd wedi cael cynnig grant Taith.
- Mae cofnodion ein cyfarfodydd bwrdd ar gael ar dudalen “Bwrdd ILEP Ltd” yn ein hadran ‘Amdanom’.
- Mae cofnodion ein Bwrdd Cynghori ar gael ar dudalen ‘Bwrdd Cynghori‘ yn ein hadran ‘Amdanom’.
- Mae cofnodion ein cyfarfodydd Rhanddeiliaid ar gael ar dudalen ‘Grwpiau Rhanddeiliaid‘ yn ein hadran ‘Amdanom’.
Protocolau, polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig presennol ar gyfer darparu ein gwasanaethau a’n cyfrifoldebau.
- Erthyglau Cymdeithasu
- Cofrestr buddiannau aelodau Bwrdd ILEP Ltd
- Polisi preifatrwydd gwefan
- Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- Protocol diogelu
- Protocol digwyddiadau rhyngwladol sylweddol
- Gweithdrefn apelio a chwyno
- Rheoli cofnodion a data personol
- Polisi codi tâl am wybodaeth
- Strwythur Llywodraethu
Fel is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol Caerdydd. Mae Taith wedi’i gwmpasu gan/yn dilyn y polisïau a’r gweithdrefnau canlynol gan Brifysgol Caerdydd sydd i’w gweld yng nghynllun cyhoeddi Prifysgol Caerdydd:
- Rheoliadau, polisïau a chanllawiau TG
- Safonau’r Gymraeg
- Gweithdrefnau a pholisïau sy’n ymwneud ag adnoddau dynol
- Datganiad polisi tâl
- Gweithdrefnau yn ymwneud â recriwtio
- Polisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Iechyd a diogelwch
- Rheoli ystadau
- Cod ymarfer teledu cylch cyfyng
Cyflogir holl staff Taith gan Brifysgol Caerdydd at yr unig ddiben o gyflenwi rhaglen Taith. Am unrhyw wybodaeth yn ymwneud â recriwtio a chyflogi staff megis cydraddoldeb, recriwtio, disgyblaeth ac achwyno, gweler cynllun cyhoeddi Prifysgol Caerdydd.
Cofrestr buddiannau ar gyfer aelodau Bwrdd ILEP Ltd ac aelodau Bwrdd Ymgynghorol Taith
Isod mae dolenni i’r Gofrestr Buddiannau ddiweddaraf ar gyfer aelodau Bwrdd ILEP Ltd ac aelodau Bwrdd Ymgynghorol Taith,
- Aelodau Bwrdd ILEP Ltd
- Aelodau Bwrdd Ymgynghorol Taith
Mae Taith yn cynnig ariannu i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau bobl yng Nghymru i ddysgu, astudio a gwirfoddoli dros y byd i gyd. Am ragor o fanylion am ein rhaglenni ariannu, gweler y wybodaeth benodol i’r sector perthnasol.
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Addysg Uwch
Mae canllawiau rhaglen, sy’n cynnig manylion y llwybrau ariannu, wedi ei addasu ar gyfer pob llwybr a galwad ariannu ac fe’u cyhoeddir yn ystod galwadau ariannu agored. Darganfyddid y rhain yn yr adran ‘Archif’ uchod.
Am ragor o wybodaeth am ILEP a Taith, gweler ein gwefan.
Ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth yn gyffredinol yn cynnwys:
- Gwybodaeth y byddai ei datgelu yn cael ei hatal gan y gyfraith, neu wedi’i heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, neu wedi’i heithrio o’r ddyletswydd i’w datgelu o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu sydd fel arall wedi’i hystyried yn gywir i’w diogelu rhag ei datgelu
- Gwybodaeth bersonol (gweler cais gwrthrych am wybodaeth)
- gwybodaeth ar ffurf drafft
- gwybodaeth nad yw ar gael yn hawdd bellach gan ei bod wedi’i chynnwys mewn ffeiliau sydd wedi’u gosod mewn storfa archif, neu sy’n anodd cael mynediad ati am resymau tebyg.
Rydym wedi ymrwymo i wneud cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael yn rhwydd ar yr anghyfleustra a’r gost isaf posibl. Byddwn ond yn codi tâl am ddeunydd a gyhoeddir fel rheol lle’r ydym wedi ein hawdurdodi yn gyfreithiol, ac y mae’n gyfiawn, i ni wneud hynny. Cedwir taliadau i’r isafswm a bydd yn unol â’n polisi codi tâl am wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd. Os codir tâl, bydd cadarnhad o’r taliad sy’n ddyledus yn cael ei roi cyn darparu’r wybodaeth. Gellir gofyn am daliad cyn darparu’r wybodaeth.
Gellir codi tâl hefyd am wneud setiau data (neu rannau o setiau data) sy’n waith hawlfraint perthnasol ar gael i’w hail-ddefnyddio. Bydd y taliadau hyn yn unol â thelerau Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015, lle maen nhw’n gymwys, neu gyda rheoliadau a wneir o dan adran 11B Deddf Rhyddid Gwybodaeth, neu gyda phwerau statudol eraill awdurdod cyhoeddus.
Bydd deunydd a gyhoeddir ac a gyrchir ar ein gwefan yn cael ei darparu yn rhad ac am ddim bob amser.
Gellir codir tâl am wariant fel:
- llungopïo
- postio a phecynnu
- costau uniongyrchol o ganlyniad i weld y wybodaeth
Ceisiadau ysgrifenedig
Gellir gofyn am wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus nad yw’n cael ei chyhoeddi o dan y cynllun hwn trwy wneud cais ysgrifenedig, a bydd ei darparu yn cael ei hystyried yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. I wneud cais, cysylltwch ymholiadau@taith.cymru neu gweler ein tudalen Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.