Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.taith.cymru/ .
Rhaglen sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru yw Taith. Mae’n cael ei harwain gan International Learning Exchange Programme (ILEP) Ltd, gweithredwr y rhaglen sy’n un o is-gyrff Prifysgol Caerdydd.
Bluestag sy’n rhedeg y wefan hon ar ran Taith. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr
- nid oes modd addasu uchder llinell neu fwlch rhwng testun
- nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw
- mae’n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch rhai o’n ffurflenni ar-lein
- allwch chi ddim neidio i’r prif gynnwys os ydych chi’n defnyddio rhaglen darllen sgrin
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
E-bost: Taithenquiries@cardiff.ac.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 7 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â’r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy’r cysylltiad isod:
Ebost: Taithenquiries@cardiff.ac.uk
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Bluestag, ar ran Taith, wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfedd
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd y diffyg cydymffurfio, sy’n cael eu rhestru isod.
- Efallai na fydd gan nifer fach o fotymau gynnwys testun gweladwy
- Nid yw nifer fach o elfennau angori yn cynnwys dolenni
- Nid yw un ffurflen we yn cynnwys label ffurflen weladwy
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid oes gan rai delweddau destun amgen, felly ni fydd pobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin yn gallu cael yr wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys nad yw’n destun).
Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Medi 2022. Pan fyddwn ni’n cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau’n bodloni safonau hygyrchedd.
Mae dolenni o fewn bloc penodol o gynnwys, er y gellir clicio arno, yn cynnwys elfen gyswllt heb briodoledd href. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 (diben cyswllt (yn ei gyd-destun)).
Mae un ffurflen we yn cynnwys mewnbwn nad yw’n cynnwys label ffurflen weladwy. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (penawdau a labeli).
Gwe-lywio a chael gwybodaeth
Nid oes modd neidio’r cynnwys sy’n cael ei ailadrodd ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, dewis ‘neidio i’r prif gynnwys).
Nid yw hi bob tro’n bosibl newid sgrin y ddyfais o fod ar draws i fod ar i fyny heb ei gwneud hi’n anoddach gweld y cynnwys.
Trafodion ac offer rhyngweithiol
Mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol gan ddefnyddio bysellfwrdd. Er enghraifft, gan fod tag ‘label’ ar goll ar gyfer rhai o reolyddion y ffurflen.
Byddwn yn gwneud asesiad arall adeg adnewyddu’r contract cyflenwi, a fydd yn debygol o fod ym mis Ionawr 2023.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr ddefnyddio ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2022, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid oes unrhyw ddogfennau o’r fath ar y wefan hon.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.
Fideos byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.
Sut rydym yn gwella hygyrchedd
Yn dilyn lansio’r wefan hon ar 2 Chwefror 2022, byddwn yn cynnal profion hygyrchedd pellach ac yn diweddaru’r datganiad hwn
Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Chwefror, 2022. Adolygwyd ddiwethaf ar 2 Chwefror 2022.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 2 Chwefror 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Bluestag ar ran Prifysgol Caerdydd.