Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy

Cysylltwch
Llwybr 2

Partneriaethau a Chydweithio Strategol

Manylion cyllido
Ar gyfer:
Addysg Oedolion
Statws:
Ar agor
Dyddiad cau:
30/11/2023
TrosolwgPwy sy’n gallu cyflwyno caisGweithgareddau a GefnogirCyllidSut i gyflwyno caisDigwyddiadau

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais

Darparwyr addysg uwch

Mae cyfleoedd cyllido Addysg Uwch Llwybr 2 Taith ar agor i unrhyw sefydliad a reoleiddir neu sy’n gofrestredig yng Nghymru, ac sy’n gweithredu yno, sy’n darparu addysg ffurfiol ac anffurfiol i oedolion, gan gynnwys:  

  • Awdurdodau cyhoeddus lleol a rhanbarthol, cyrff cydlynu a sefydliadau eraill sy’n gofrestredig ac sy’n weithredol yng Nghymru gyda rôl ym maes addysg i oedolion
  • Consortiwm o sefydliadau/darparwyr sy’n cynnwys un sefydliad blaenllaw sy’n cyflwyno cais ar ran sawl darparwr addysg i oedolion ym maes addysg i oedolion. Rhaid bod holl aelodau’r consortiwm fod wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru a gweithredu ynddi. 

Gall sefydliadau sy’n darparu addysg ffurfiol ac anffurfiol i oedolion, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu gofrestru yng Nghymru ond sydd wedi’i reoleiddio neu gofrestru yn y DU neu ran ohoni, ac (ii) sy’n gweithredu’n llawn neu yn rhannol o Gymru, fod yn gymwys i gyflwyno cais ar yr amod y gallant gyflwyno tystiolaeth foddhaol i ddangos y canlynol:   

  • sut y bydd y rhaglen arfaethedig o fudd i Gymru a 
  • sicrhau bod y cyfranogwyr arfaethedig ar gyfer naill ai (i) symudedd allanol, yn gyfranogwyr sy’n ymgymryd â gweithgaredd dysgu yng Nghymru, neu (II) ar gyfer symudedd mewnol, y bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgaredd dysgu yng Nghymru.  
Prosiectau traws-sector

Mae Taith yn deall yn llawn gwerth gweithio ar draws sectorau a buddion dod â sefydliadau ynghyd o wahanol sectorau i weithio tuag at nod gyffredin. Felly, mae’r rhaglen yn cefnogi ac yn annog prosiectau traws-sector o sefydliadau o sectorau gwahanol sy’n gweithio mewn partneriaeth.

Cydgyfnewidiaeth 

Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith. Gellir defnyddio hyd at 30% o’r cyllid ar gyfer prosiectau yn Llwybr 2 Taith i ariannu gweithgareddau partner(iaid) rhyngwladol

Gwybodaeth ddefnyddiol

Isod ceir rhestr o adnoddau defnyddiol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich cais am gyllid Llwybr 2 2023:

ItemLink
2023 Canllawiau craidd y rhaglen 2023 Canllawiau craidd y rhaglen
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023
Ffurflen gais Llwyber 2 2023 Ffurflen gais Llwyber 2 2023
Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 Cyflwyniad i Llwybr 2 2023
Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2
Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2
Ffurflen Cyflenwr Newydd Ffurflen Cyflenwr Newydd
Awgrymiadau Aseswyr Awgrymiadau Aseswyr
Digwyddiadau Digwyddiadau
Mwy o wybodaeth ymholiadau@taith.cymru