Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy

Cysylltwch
Llwybr 2

Partneriaethau a Chydweithio Strategol

Manylion cyllido
Ar gyfer:
Ysgolion
Statws:
Ar agor
Dyddiad cau:
30/11/2023
TrosolwgPwy sy’n gallu cyflwyno caisGweithgareddau a GefnogirCyllidSut i gyflwyno caisDigwyddiadau

Gweithgareddau a Gefnogir

Bydd Llwybr 2 yn cyllido gweithgareddau sy’n arwain at greu, datblygu a lledaenu allbynnau prosiect sy’n mynd i’r afael ag un o’r themâu Taith a nodwyd. Mae gweithgareddau cymwys fel a ganlyn:

Symudeddau

Nid oes terfyn i gyfran y cyllid y gellir ei defnyddio ar gyfer symudeddau, ar yr amod bod y rhain yn hwyluso datblygiad a chwblhad allbwn y prosiect yn glir. Mae staff a dysgwyr yn gymwys am deithio rhyngwladol. Mae symudeddau dysgwr cymwys yn cynnwys symudeddau grŵp yn unig. Ni fydd symudeddau dysgwr unigol yn gymwys yn Llwybr 2. 

Nid oes terfyn ar ganran y cyllid y gellir ei defnyddio at ddiben symudeddau. Rhaid i’r nifer o gyfranogwyr a anfonir gan y partner rhyngwladol fod yn gyfartal neu’n is na’r nifer o gyfranogwyr o Gymru a anfonir dramor.

Rheoli a gweithredu prosiectau

Cyfraniad at gostau i alluogi i’r gweithgaredd gael ei gynnal Gallai’r rhain gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafelloedd cyfarfod, arlwyaeth, costau hwyluso, cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd, costau gweinyddol etc. Nid yw costau staff yn gymwys dan y gweithgaredd hwn.

Nid oes terfyn ar ganran y cyllid y gellir ei defnyddio at ddiben y gweithgaredd hwn.

Costau staff

Cyfraniad at gostau staffio yw hwn sy’n ofynnol er mwyn cynnal y gweithgaredd. Gellir dim ond defnyddio cyllid yn y categori hwn i dalu costau staffio sy’n uniongyrchol gysylltiedig â datblygu, creu a lledaenu allbwn y prosiect. 

Cyfraniad i’r gost hon yw 35% ar y mwyaf o ddyfarniad cyllid y prosiect yn gyffredinol.

Costau lledaenu

Cyfraniad at gostau rhannu a lledaenu allbynnau’r prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys,  heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, llunio adroddiadau, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu cais digidol neu lwyfan ar-lein. Nid yw costau staffio’n gymwys dan y gweithgaredd hwn. 

Nid oes terfyn ar ganran y cyllid y gellir ei defnyddio at ddiben y gweithgaredd hwn.

Costau cyfieithu

Cyfraniad at gostau cyfieithu sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a lledaenu allbwn y prosiect. Mae costau cymwys yn cynnwys cyfieithu deunyddiau sy’n gysylltiedig ag allbwn y prosiect, cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau, sesiynau hyfforddi a seminarau etc. Nid yw costau staffio’n gymwys dan y gweithgaredd hwn.

Nid oes terfyn ar ganran y cyllid y gellir ei defnyddio at ddiben y gweithgaredd hwn.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Isod ceir rhestr o adnoddau defnyddiol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich cais am gyllid Llwybr 2 2023:

ItemLink
2023 Canllawiau craidd y rhaglen 2023 Canllawiau craidd y rhaglen
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023
Ffurflen gais Llwyber 2 2023 Ffurflen gais Llwyber 2 2023
Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 Cyflwyniad i Llwybr 2 2023
Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2
Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2
Ffurflen Cyflenwr Newydd Ffurflen Cyflenwr Newydd
Awgrymiadau Aseswyr Awgrymiadau Aseswyr
Digwyddiadau Digwyddiadau
Mwy o wybodaeth ymholiadau@taith.cymru