Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy

Cysylltwch
Llwybr 2

Partneriaethau a Chydweithio Strategol

Manylion cyllido
Ar gyfer:
Ysgolion
Statws:
Ar agor
Dyddiad cau:
30/11/2023
TrosolwgPwy sy’n gallu cyflwyno caisGweithgareddau a GefnogirCyllidSut i gyflwyno caisDigwyddiadau

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais

  • Unrhyw ysgol a ariennir neu a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy’n gofrestredig yng Nghymru ac yn gweithredu ynddi, gan ddarparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i blant a phobl ifanc rhwng 4 ac 19 oed sy’n cael eu harolygu gan ESTYN; 
  • Unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru; neu
  • Gonsortiwm sy’n cynnwys un sefydliad blaenllaw sy’n cyflwyno cais ar ran sawl ysgol. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol sydd wedi’i chyllido neu ei chynnal gan awdurdod lleol ac sy’n gofrestredig yng Nghymru, ac yn gweithredu yno, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff sy’n cydlynu ysgol neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill gyda rôl ym maes addysg ysgol. Rhaid bod holl aelodau’r consortiwm yn cael eu rheoleiddio neu fod yn gofrestredig yng Nghymru, a gweithredu ynddi, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu cyllido neu eu cynnal gan awdurdod lleol a bod yn gofrestredig yng Nghymru a gweithredu ynddi. 
Prosiectau traws-sector

Mae Taith yn deall yn llawn gwerth gweithio ar draws sectorau a buddion dod â sefydliadau ynghyd o wahanol sectorau i weithio tuag at nod gyffredin. Felly, mae’r rhaglen yn cefnogi ac yn annog prosiectau traws-sector o sefydliadau o sectorau gwahanol sy’n gweithio mewn partneriaeth.

Cydgyfnewidiaeth 

Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith. Gellir defnyddio hyd at 30% o’r cyllid ar gyfer prosiectau yn Llwybr 2 Taith i ariannu gweithgareddau partner(iaid) rhyngwladol

Gwybodaeth ddefnyddiol

Isod ceir rhestr o adnoddau defnyddiol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich cais am gyllid Llwybr 2 2023:

ItemLink
2023 Canllawiau craidd y rhaglen 2023 Canllawiau craidd y rhaglen
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023
Ffurflen gais Llwyber 2 2023 Ffurflen gais Llwyber 2 2023
Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 Cyflwyniad i Llwybr 2 2023
Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2
Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2
Ffurflen Cyflenwr Newydd Ffurflen Cyflenwr Newydd
Awgrymiadau Aseswyr Awgrymiadau Aseswyr
Digwyddiadau Digwyddiadau
Mwy o wybodaeth ymholiadau@taith.cymru