Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchEr mwyn gwneud cais am gyllid, rhaid i sefydliadau gwblhau’r ffurflen gais Llwybr 2 Taith ar-lein, sydd ar gael ar 5 Hydref 2023.
Cyn dechrau’r ffurflen gais ar-lein, rydym ni’n argymell eich bod chin darllen ac yn adolygu’r adnoddau canlynol yn fanwl:
Yn ogystal, bydd tîm Taith yn cynnal gweminarau cyflwyno cais a Holi ac Ateb. Bydd y rhain yn eich helpu i gwblhau eich cais ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y rhaglen. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i alwad Llwybr 2, 2023 yw 12:00 (canol dydd), 30 Tachwedd 2023.
Sylwer: Mae ceisiadau ar agor i sefydliadau cymwys yng Nghymru’n unig, ac ni all cyfranogwyr unigol gyflwyno cais yn uniongyrchol i’r rhaglen.
Isod ceir rhestr o adnoddau defnyddiol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich cais am gyllid Llwybr 2 2023:
Item | Link |
---|---|
2023 Canllawiau craidd y rhaglen | 2023 Canllawiau craidd y rhaglen |
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 | Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 |
Ffurflen gais Llwyber 2 2023 | Ffurflen gais Llwyber 2 2023 |
Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 | Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 |
Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 | Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 |
Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 | Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 |
Ffurflen Cyflenwr Newydd | Ffurflen Cyflenwr Newydd |
Awgrymiadau Aseswyr | Awgrymiadau Aseswyr |
Digwyddiadau | Digwyddiadau |
Mwy o wybodaeth | ymholiadau@taith.cymru |
I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau gweler y tudalennau perthnasol ar wefan Taith
Apeliadau a Chwynion