Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchBydd Llwybr 2 yn cefnogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau rhyngwladol ac o Gymru er mwyn datblygu theori ac arfer da mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Bydd y llwybr hwn yn cyllido partneriaethau rhyngwladol cydweithredol a arweinir gan Gymru i ddatblygu allbwn prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Dylai ceisiadau am arian adnabod yn glir y bwlch, mater neu flaenoriaeth sector mae’r prosiect yn bwriadu archwilio ac esbonio sut bydd yr allbwn prosiect yn datblygu ac ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion ar draws y sector.
Rhaid i’r allbynnau prosiect hyn fod o ansawdd uchel ac o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) yn ehangach. Mae pob galwad cyllido Llwybr 2 yn nodi themâu, gan sicrhau bod prosiectau a’u hallbynnau yn cyd-fynd â blaenoriaethau a pholisïau Cymreig yn y sectorau addysg ac ieuenctid, a galluogi dysgu traws-sector pellach drwy greu rhwydweithiau o brosiectau’n seiliedig ar themâu cyffredin.
Themâu galwad cyllid Llwybr 2 (2022) yw:
Drwy gyfranogi yn y prosiectau, bydd cydweithio rhyngwladol a chyfleoedd dysgu yn galluogi staff a dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u cymhwysiad o thema neu bwnc allweddol. Drwy lunio a lledaenu allbynnau, dylai prosiectau Llwybr 2 hefyd anelu at greu buddion hir dymor ehangach i sefydliadau sy’n cymryd rhan, o’r sector(au) ac i Gymru a’r wlad/gwledydd partner rhyngwladol. Felly, bydd y prosiectau hyn yn chwarae rhan wrth gyfrannu at ddatblygu nodau’r rhaglen Taith a/neu wneud effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau polisi mewn sectorau gwahanol ledled Cymru a’r tu hwnt.
Y gyllideb arwyddol ar gyfer galwad Ysgolion Llwybr 2 2023 yw £500,000.
Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir wedi’r dyddiad cau hwn eu hasesu
Ni chaiff offerynau cyfrifo grantiau a rhestrau gwirio cymhwysedd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hasesu
Isod ceir rhestr o adnoddau defnyddiol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich cais am gyllid Llwybr 2 2023:
Item | Link |
---|---|
2023 Canllawiau craidd y rhaglen | 2023 Canllawiau craidd y rhaglen |
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 | Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 |
Ffurflen gais Llwyber 2 2023 | Ffurflen gais Llwyber 2 2023 |
Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 | Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 |
Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 | Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 |
Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 | Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 |
Ffurflen Cyflenwr Newydd | Ffurflen Cyflenwr Newydd |
Awgrymiadau Aseswyr | Awgrymiadau Aseswyr |
Digwyddiadau | Digwyddiadau |
Mwy o wybodaeth | ymholiadau@taith.cymru |