Cysylltwch

Llwybr 1 2024

Mae’r alwad nesaf am geisiadau Llwybr 1 ar agor!

Dyddiad cau: 20/03/2024

Mae Llwybr 1 yn cefnogi symudedd allanol a mewnol cyfranogwyr unigol neu grwpiau o gyfranogwyr. Mae cyllid ar gael i ddysgwyr, pobl ifanc a staff ymgymryd â chyfnewidiadau rhyngwladol, yn y tymor byr a’r tymor hir sy’n darparu cyfleoedd i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.  

Beth yw cyfnewid rhyngwladol? 

Mae cyfnewid ryngwladol yn gyfnewid dysgu rhwng unigolyn neu grŵp o bobl o Gymru, ac unigolyn neu grŵp o bobl o wlad arall. Mae’r cyfnewid hwn yn ei gwneud hi’n bosib i gyfranogwyr ddysgu gan ei gilydd, i rannu profiadau a meithrin cyfeillgarwch. 

Ymrwymiad Taith i gynhwysiant a hygyrchedd

Mae Taith yn ymrwymedig i sicrhau bod cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth newydd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl sydd wedi’u tangynrychioli mewn cyfnewid rhyngwladol yn y gorffennol i gyrchu cyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.   

Rhaid i sefydliadau sy’n cyflwyno cais ddangos y byddant yn cynnig cyfleoedd i’r rhai hynny a fyddai’n annhebygol o gael y cyfle i brofi symudedd rhyngwladol heb gyllid Taith. Er mwyn i raglenni cyfnewid Llwybr 1 ddarparu’r effaith fwyaf, rhaid i 25% neu fwy o ddysgwyr, neu bobl ifanc, sy’n gyfranogwyr prosiect fod o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Mae symudedd staff yn unig yn bosibl, ond rhaid bod ganddynt effaith glir y gellir ei dangos ar y dysgwyr, neu’r bobl ifanc, maent yn gweithio gyda nhw, yn enwedig y rhai hynny o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.  

Enghreifftiau o brosiectau Llwybr 1 blaenorol 

Os hoffech chi gael ysbrydoliaeth ar sut y gall eich sefydliad gymryd rhan yn Llwybr 1 mae gennym gasgliad o astudiaethau achos o bob sector ar ein gwefan, gan rannu straeon gan gyfranogwyr sydd wedi ymweld â gwledydd ledled y byd.   

Mae ysgolion yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn llawer o gyfnewidfeydd rhyngwladol, gan gynnwys cyfnewid â Sbaen, Colombia a Singapore. 

Yn y sector ieuenctid, teithiodd Kokoro Arts i Gyprus i ddatblygu cynlluniau ar gyfer taith gyfnewid ieuenctid dros yr haf yn Latfia. Mae Kokoro Arts yn anelu at ddarparu cyfleoedd artistig i bobl ifanc yng Nghymru ac maen nhw â diddordeb arbennig mewn gweithio gyda chymunedau lleiafrifol i ddod ag amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb i fyd celfyddydol Cymru.

Mewn Addysg Oedolion, ymwelodd staff o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol â Chatalwnia i ddysgu am gynllun iaith sy’n cefnogi dysgwyr a darganfod syniadau newydd ac arfer gorau.   

Teithiodd staff o golegau Addysg Bellach ledled Cymru i Barcelona fel rhan o raglen ColegauCymru i greu fframwaith ar gyfer integreiddio cyfleoedd symudedd rhyngwladol i gymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. 

Ymwelodd myfyriwr ymchwil o Brifysgol Metropolitan Caerdydd â Malaysia i ymchwilio i sut y gellir defnyddio robotiaid i gynorthwyo nyrsys i wella a gwella gofal claf mewn lleoliadau gofal iechyd. 

Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar sut y gall cyllid Llwybr 1 Taith wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yna gwyliwch y fideo hwn ar brosiect Llwybr 1 GISDA o 2022 ymlaen. Mae GISDA yn elusen sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc fregus a digartref yng Ngogledd Cymru. Ym mis Mehefin 2023, fe deithion nhw i’r Ffindir i dreulio amser gyda grŵp ieuenctid lleol, gan ennill profiadau newydd, dysgu sgiliau newydd a defnyddio byd natur i gefnogi lles meddwl. Daeth hwn yn brofiad a newidiodd bywydau rhai cyfranogwyr ac mae wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer eu dyfodol

Diddordeb mewn ymgeisio?

Mae ffurflen gais Llwybr 1 ac ystod o adnoddau cais defnyddiol ar gael isod. Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o weminarau byw i gefnogi sefydliadau drwy’r broses ymgeisio. Ewch i’n tudalen digwyddiadau i gofrestru.

Gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr Taith ar waelod y dudalen hon neu ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf o’r rhaglen.


Gwybodaeth ddefnyddiol

Isod ceir rhestr o adnoddau defnyddiol fydd yn eich cynorthwyo yn eich cais am gyllid Llwybr 1 2024 :
Sylwch os gwelwch yn dda fod y cyfrifydd grant wedi'i gynnwys yn ffurflen gais Llwybr 2024.

ItemLink
Ffurflen gais Llwybr 1 2024 Ffurflen gais Llwybr 1 2024
Canllaw Rhaglen Taith 2024 Canllaw Rhaglen Taith 2024
Canllaw Llwybr 1 2024 - Ysgolion Canllaw Llwybr 1 2024 - Ysgolion
Canllaw Llwybr 1 2024 - Ieuenctid Canllaw Llwybr 1 2024 - Ieuenctid
Canllaw Llwybr 1 2024 - Addysg Oedolion Canllaw Llwybr 1 2024 - Addysg Oedolion
Canllaw Llwybr 1 2024 - AB ac AHG Canllaw Llwybr 1 2024 - AB ac AHG
Canllaw Llwybr 1 2024 - Addysg Uwch Canllaw Llwybr 1 2024 - Addysg Uwch
Fideo canllaw- Cyflwyniad i Taith Llwybr 1 2024 Fideo canllaw- Cyflwyniad i Taith Llwybr 1 2024
Fideo canllaw - Ffurflen gais Llwybr 1 2024 Fideo canllaw - Ffurflen gais Llwybr 1 2024
Fideo canllaw - Cyfrifydd Grant Llwybr 1 2024 Fideo canllaw - Cyfrifydd Grant Llwybr 1 2024
Cwestiynau’r Cais a Meini Prawf Asesu Llwybr 1 2024 Cwestiynau’r Cais a Meini Prawf Asesu Llwybr 1 2024
Cwestiynau Cyffredin Ceisiadau Grant Taith (Pob Llwybr) Cwestiynau Cyffredin Ceisiadau Grant Taith (Pob Llwybr)
Ffurflen Cyflenwr Newydd Ffurflen Cyflenwr Newydd
Digwyddiadau Digwyddiadau
Mwy o wybodaeth ymholiadau@taith.cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.