Mae dwy ffurflen gais wahanol ar gyfer Llwybr 1 – mae’r gyntaf ar gyfer sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am hyd at £60,000. Yr ail ar gyfer sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am fwy na £60,000. Mae’r ffurflen gais gyntaf yn fyrrach ac yn gofyn am lai o wybodaeth na’r ail. Gwnewch yn sicr eich bod yn llenwi’r ffurflen gais gywir ar gyfer y swm rydych chi’n gofyn amdano.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Canllaw Llwybr 1 penodol i’ch sector cyn dechrau’r broses o ymgeisio. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o Taith, a gwybodaeth bwysig am gymhwysedd sefydliad a chyfranogwr, opsiynau symudedd, hyd, a chostau.
Canllaw Llwybr 1
Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n darllen y canllaw Llwybr 1 hwn yn drylwyr, yn enwedig y wybodaeth sy'n benodol i'ch sector ynghylch gweithgareddau cymwys, hyd, cyfranogwyr a chostau. Cysylltwch â’r tîm Taith os oes gennych chi unrhyw gwestiwn os gwelwch yn dda.