Cysylltwch

Llwybr 2

Mae’r  galwad am geisiadau Llwybr 2 Taith 2023 ar agor!

Bydd Llwybr 2 yn cefnogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau rhyngwladol ac o Gymru er mwyn datblygu theori ac arfer da mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Bydd y llwybr hwn yn cyllido partneriaethau rhyngwladol cydweithredol a arweinir gan Gymru i ddatblygu allbwn prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Dylai ceisiadau am arian adnabod yn glir y bwlch, mater neu flaenoriaeth sector mae’r prosiect yn bwriadu archwilio ac esbonio sut bydd yr allbwn prosiect yn datblygu ac ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion ar draws y sector.

Rhaid i’r allbynnau prosiect hyn fod o ansawdd uchel ac o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) yn ehangach. Mae pob galwad cyllido Llwybr 2 yn nodi themâu, gan sicrhau bod prosiectau a’u hallbynnau yn cyd-fynd â blaenoriaethau a pholisïau Cymreig yn y sectorau addysg ac ieuenctid, a galluogi dysgu traws-sector pellach drwy greu rhwydweithiau o brosiectau’n seiliedig ar themâu cyffredin.

Y dyddiad cau am wneud cais yw 12:00yp ar 30fed Tachwedd 2023.

Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023

Gweler isod chanllawiau a fideos i'ch cynorthwyo i gwblhau eich cais:

ItemLink
2023 Canllawiau craidd y rhaglen 2023 Canllawiau craidd y rhaglen
Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023 Canllaw Rhaglen Llwybr 2 2023
Cyflwyniad i Llwybr 2 2023 Cyflwyniad i Llwybr 2 2023
Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2 Fideo canllaw- ffurflen gais Llwybr 2
Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2 Fideo canllaw i’r cyfrifydd grant Llwybr 2
Awgrymiadau Aseswyr Awgrymiadau Aseswyr

Digwyddiadau Diweddaraf

Byddwn yn cynnal cyfres o weminarau byw i gefnogi sefydliadau drwy'r broses ymgeisio. Cliciwch ar y dolenni isod i gofrestru:

Darganfod mwy:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ymholiadau@taith.cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.