Mae ein Canllaw Blynyddol i’r Rhaglenni Craidd yn rhoi manylion cyffredinol am y cyllid sydd ar gael drwy’r Llwybrau gan gynnwys pwy sy’n gymwys i wneud cais am gyllid a’r gweithgareddau cymwys.
Yn ogystal, mae Canllawiau penodol ar gyfer Rhaglenni Llwybrau neu Raglenni Sector – yn dibynnu ar flwyddyn eich cais – sy’n rhoi manylion am y Llwybrau ariannu unigol gan gynnwys gweithgareddau cymwys, cyfraddau grant a gwybodaeth ar gyfer sectorau penodol.
Sylwch fod Canllawiau Rhaglenni ar wahân ar gyfer galwadau ariannu 2022 a 2023. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y canllawiau sy’n berthnasol i flwyddyn eich cais, Llwybr a sector.
Eitem | Disgrifiad | Linc |
---|---|---|
2022 Canllawiau Craidd Rhaglen | Mae canllawiau’r Rhaglen 2022 yn berthnasol i geisiadau a gyflwynir i, a phrosiectau a ariennir gan, alwadau cyllid 2022 Taith yn unig. | |
2022 Llwybr 1 Canllaw Rhaglen | Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol â galwad ariannu Llwybr 1 Taith 2022. | |
2022 Llwybr 1, Ail Alwad (AB ac AHG) | Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol ag ail galwad ariannu Llwybr 1 2022, sydd ar agor i’r sectorau Addysg Bellach (AB) ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG). |