Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Galwad Ariannu Pencampwyr Taith 2023

Mae’r alwad gyllid i benodi Pencampwyr Taith ar agor nawr

Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus a thwf sylweddol mewn ceisiadau am gyllid Taith yn yr ail flwyddyn, mae’r cymorth a ddarperir i sectorau yn cael ei fireinio i ganolbwyntio ar fynediad a chynhwysiant i gyfleoedd Taith. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus am gyllid Pencampwyr Taith yn ategu gwaith Gweithrediaeth Rhaglen Taith, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â’r sefydliadau hynny sy’n gweithio gyda’r mwyaf difreintiedig ac anodd eu cyrraedd, y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rhai ag anableddau a/neu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd Pencampwyr Taith yn darparu cymorth uniongyrchol, cyngor ac arweiniad ac yn meithrin gallu ar gyfer llwyddiant nawr ac yn y dyfodol, gyda thargedau penodol yn ymwneud ag allgymorth a chyfranogiad gan gyfranogwyr a sefydliadau difreintiedig neu heb gynrychiolaeth ddigonol.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Mae Taith yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau cymwys sydd â chyrhaeddiad/ rhwydweithiau ledled Cymru a phrofiad amlwg o ymgysylltu â’r sector perthnasol a’i gefnogi, i helpu Gweithrediaeth Rhaglen Taith i gyflawni egwyddorion craidd y rhaglen o gynhwysiant a hygyrchedd. Mae cyllid ar gael i sefydliadau yn y sectorau canlynol:

  • Ysgolion
  • Ieuenctid
  • Addysg Oedolion

Sut i gyflwyno cais

Mae’r tudalen galwad ariannu Pencampwyr Taith ar ein gwefan yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch arwain drwy’r broses ymgeisio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â ni yn: ymholiadau@taith.cymru

Llinell amser

Agor galwad Pencampwyr Taith: ddydd Mercher 26 Ebrill 2023

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: ddydd Mawrth 30 Mai 2023, 12yp

Cyfnod asesu: Mehefin-Gorffennaf 2023

Hysbysiad o ganlyniadau: Gorffennaf 2023

Dyddiad cychwyn y prosiect: 1 Medi 2023

Dyddiad gorffen y prosiect: 31 Awst 2024

Am unrhyw gwestiynau cysylltwch â Thîm Taith ymholiadau@taith.cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.