Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchBydd yr ymweliad 10 diwrnod yn dod i ben gyda digwyddiad dathlu ‘Mokete’ arbennig i arddangos y dysgu cydweithredol sydd wedi digwydd fel rhan o gyfnewid dysgu rhyngwladol.
Wedi’i drefnu gan Dolen Cymru Lesotho, bydd ysgolion o bob rhan o Gymru yn croesawu 14 o athrawon a 28 o fyfyrwyr o 10 ysgol yn Lesotho.
Dywedodd Sharon Flint, Cyfarwyddwr Cydweithredol Dolen Cymru Lesotho: “Mae’r 20 ysgol bartner yn cymryd rhan mewn prosiect dysgu byd-eang o’r enw ‘Meddwl y Byd’ a welodd 72 o athrawon a disgyblion o Gymru yn ymweld â Lesotho yn gynharach eleni i weithio gyda’u partneriaid ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG). Yn dilyn yr ymweliad cyfatebol â Chymru y mis hwn, bydd yr holl gyfranogwyr yn parhau i arwain camau gweithredu lleol ar gyfer eu dewis SDG gyda digwyddiad ar-lein terfynol wedi’i gynllunio ar gyfer Diwrnod Byd-eang y Plant ym mis Tachwedd 2023.”
Mae’r profiad cyfnewid dysgu rhyngwladol hwn wedi bod yn bosib gyda chyllid Taith. Dywedodd Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith: “Mae hwn yn adeg mor arbennig i bob un ohonom. Edrychaf ymlaen at groesawu ein hymwelwyr o Lesotho ar gyfer y ‘mokete’ arbennig iawn hwn. Mae gallu gweld sut mae’r cyfle cyfnewid rhyngwladol gwych hwn wedi dod yn realiti a gweld yr effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar ddysgwyr ac athrawon o Lesotho a Chymru yn wirioneddol werth chweil. Dyma hanfod Taith”.
Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: “Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n parhau i groesawu dysgwyr o bob rhan o’r Byd. Mae’r elfen gyfnewid yn hanfodol i’n rhaglen Taith. Mae’n caniatáu i ddysgwyr a staff o Gymru a Lesotho gael profiad o wledydd a diwylliannau ei gilydd a chyfnewid syniadau am heriau byd-eang a rennir fel newid yn yr hinsawdd a meithrin partneriaethau hirdymor.”
Hefyd wedi’u cynnwys yn y grŵp ymweld mae 5 gweithiwr addysg proffesiynol sydd yng Nghymru am 4 wythnos yn cymryd rhan mewn Lleoliad Athrawon Cymru, sy’n rhan o Raglen Addysg Ryngwladol Cyngor Prydeinig Cymru. Ar hyn o bryd, maent yn aros yn Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio gyda nifer o ysgolion cynradd gan gynnwys Ysgol Penygaer, Ysgol Bryngwyn, Ysgol Glan y Môr, Ysgol Stebonheath ac Ysgol Bigyn.
Mae rhagor o wybodaeth am ymweliad Ysgol Penrhyn Dewi, o Dyddewi, â Lesotho ar gael yma
Ysgol Penrhyn Dewi yn ymweld â LesothoNewyddion diweddaraf o'r rhaglen.