Cysylltwch

Grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau

Rydym yn gwahodd unigolion a sefydliadau ledled sectorau gymwys Taith (Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Uwch) i ymuno â’n grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau. Fel rhaglen newydd, rydym yn edrych i ddatblygu a gwella Taith yn barhaus, ac mae ymgynghori â rhanddeiliaid a’u cyfraniad yn rhan hanfodol o hyn.

Rôl y grwpiau fydd:

  • Cynrychioli barn eu sefydliad ac eraill o fewn eu sector ynglŷn â datblygiad parhaus a darpariaeth rhaglen Taith, gan gynnwys polisi, prosesau a chyfathrebu.
  • Rhoi adborth ar ffyrdd o weithio ac ar ymagweddau tuag at ddylunio, datblygu, darparu ac effaith y rhaglen.
  • Nodi ac amlygu rhwystrau i gyfranogiad o fewn y sector perthnasol a darparu adborth/cyngor ar sut gall y rhaglen gyflawni ei blaenoriaethau strategol o ran cynhwysiant a hygyrchedd.
  • Rhannu mewnwelediadau a diweddariadau ar ddatblygiadau perthnasol yn eu sector ac aliniad gyda blaenoriaethau’r sector.

Bydd cyfleoedd hefyd i rannu arfer da, trafod a chydweithio traws-sector, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau thematig allweddol.

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter, ar-lein, o fis Medi 2023. Mae aelodaeth yn agored i bob unigolyn a sefydliad yn y sectorau yng Nghymru sydd â diddordeb/cyfranogiad mewn Taith a chyfnewid rhyngwladol. Mae aelodaeth yn wirfoddol, a gall aelodau ymuno/gadael ar unrhyw adeg.

Mae dyddiadau rownd gyntaf y grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau fel y ganlyn:

  • Ysgolion- Medi 28ain, 12.30am-1.30pm
  • Addysg Oedolion- Medi 29ain, 9.00-10.00am
  • Addysg Ieuenctid- Medi 29ain, 10.30am- 12.00pm
  • Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol- Medi 29ain, 2.00-3.00pm
  • Addysg Uwch- Hydref 9ain, 11.00am-12.00pm

Os oes gennych chi neu’ch sefydliad ddiddordeb mewn ymuno ag un o grwpiau Randdeiliaid Sectorau, neu os hoffech gael gwybod mwy, e-bostiwch ymholiadau@taith.cymru.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.