Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch

Hyrwyddwyr Taith 2023

Five mature students sitting around a table with laptops and papers, smiling and looking like they are in a conversation.
Mae Taith yn falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi Hyrwyddwyr Taith newydd ar gyfer 2023.

Yn dilyn proses asesu annibynnol ac allanol, y sefydliadau llwyddiannus yw:

  • Diverse Cymru – Addysg Oedolion
  • Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru – Ieuenctid

Bwriad rôl Hyrwyddwyr Taith yw olynu cynllun peilot y Cyrff Trefnu Sectorau sydd bellach yn dod i ben. Yn yr alwad, gofynnwyd i Hyrwyddwyr Taith sy’n sefydliadau mewn sectorau cymwys sydd â rhwydweithiau ledled Cymru a phrofiad amlwg ym maes ymgysylltu â sefydliadau a’u cefnogi yn eu sectorau ystyried gwneud cais.

Dyma a ddywedodd Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a Diverse Cymru. Yn rhan o’u gwaith yn Hyrwyddwyr Taith, byddan nhw’n ategu gwaith Corff Gweithredol Rhaglen Taith, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â’r sefydliadau hynny heb fawr ddim profiad neu ddim profiad o gwbl, ac sydd â llai o adnoddau. Byddan nhw hefyd yn helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf difreintiedig, y rheiny mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rheiny ag anableddau a/neu Anghenion Dysgu Ychwanegol.

“Hoffen ni hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i sefydliadau Corff Trefnu Sectorau Taith: CWVYS, WCIA, BGCW, ILG, L&WI and AOC|ALW, am eu cefnogaeth a’u mewnbwn sydd wedi bod yn amhrisiadwy ers sefydlu’r rhaglen.”

Dyma a ddywedodd Susie Ventris-Field Prif Weithredwr Ganolfan: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gallu parhau i weithio gyda CWVYS a thîm Taith i sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosibl, o bob cefndir, yn cael y cyfle i gael cyfnewidiadau rhyngwladol sy’n newid bywydau rhwng Cymru a’r byd. Credwn fod y cyfnewidiadau’n gyfle unigryw ar gyfer datblygiad personol pobl ifanc, ac yn creu cysylltiadau rhyngddiwylliannol, cysylltiadau gydol oes ac undod rhwng pobl ledled y byd, gan gyfrannu at heddwch yn y pen draw. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau’r sector ieuenctid i’w galluogi i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau i Taith sydd wedi’u teilwra i’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw, ac i’w helpu i greu’r systemau a’r hyder i gydlynu symudedd rhyngwladol yn llwyddiannus.”

Dyma a ddywedodd Chris Dunn, Prif Weithredwr Diverse Cymru: “Mae Diverse Cymru yn falch iawn o gael ei ddewis i fod yn Hyrwyddwr Taith Addysg i Oedolion. Cenhadaeth Diverse Cymru yw helpu i greu cenedl heb ragfarn na gwahaniaethu, lle bydd pawb yn gyfartal ac amrywiaeth yn cael ei ddathlu. Mae hyn yn cyd-fynd â chenhadaeth Theithio, sef rhoi cyfleoedd i’r rheini sy’n anabl, dan anfantais, sy’n ymdopi ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i brofi manteision rhaglenni cyfnewid rhyngwladol.

“Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn ni’n cyflwyno sesiynau allgymorth i sefydliadau i hyrwyddo rhaglen Taith. Byddwn ni wrth law i’ch cefnogi wrth ichi ddatblygu eich syniadau, ysgrifennu ceisiadau yn ogystal â rhoi cyngor ac arweiniad ar ofynion ymarferol gweithredu a rheoli rhaglen gyfnewid ryngwladol.”

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.