Cysylltwch

Mae Taith yn recriwtio aseswyr grantiau

Dau berson yn gwenu sy'n edrych fel eu bod yn eistedd mewn darlithfa. Mae gan un liniadur ar ei ben-glin.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â’r diddordeb a’r profiad i ymuno â chronfa o aseswyr ar gyfer y rhaglen Taith i asesu ceisiadau ar gyfer galwad Llwybr 1 2023 a fydd yn lansio ym mis Ionawr 2023. Rydym yn chwilio am  bobl sydd â phrofiad o asesu ceisiadau am grantiau yn ogystal â phrofiad neu wybodaeth am o leiaf un o’r sectorau addysg a dysgu.

Bydd angen i aseswyr llwyddiannus fod ar gael ar gyfer hyfforddiant ar 7 neu 8 Chwefror 2023 yn ogystal â chwblhau asesiadau rhwng 7 Ebrill a 26 Mai 2023. Gofynnir bod aseswyr hefyd ar gael hyd at 11 Awst 2023 ar gyfer gwaith dilynol posibl

 

Gwneud cais

I gael rhagor o wybodaeth a chael gwybod sut i wneud cais, lawrlwythwch y canllaw ymgeisio.

Darllenwch y canllaw ymgeisio cyn llenwi’r datganiad i fynegi diddordeb.

Lawrlwythwch y datganiad i fynegi ddiddordeb. Ar ôl ei lenwi, anfonwch ef yn ogystal a’ch CV at ymholiadau@taith.cymru

12PM, 25 Tachwedd 2022 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 12 Rhagfyr 2022

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.