Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd
CysylltwchMae miloedd o bobl ifanc, dysgwyr a staff o bob cwr o Gymru yn paratoi i ymweld â gwledydd ledled y byd i ymgymryd â phrofiadau addysgol sy’n cyfoethogi bywyd diolch i arian gan raglen gyfnewid ryngwladol arloesol.
Mae dros £10 miliwn wedi’i ddyfarnu gan raglen Taith i sefydliadau ar draws pob maes dysgu ledled Cymru, gyda rhai o’r gweithgareddau cyfnewid cyntaf nawr yn dechrau digwydd. Bu pedwar deg chwech o sefydliadau o blith pob awdurdod lleol yng Nghymru yn llwyddiannus yn eu ceisiadau.
Drwy rownd ariannu gyntaf ‘Llwybr 1’ Taith bydd dros 6,000 o bobl yn cymryd rhan mewn cyfnewidfeydd dysgu – gan gynnwys gweithgareddau cyfnewid i mewn ac allan – sy’n anelu at ehangu gorwelion, ehangu sgiliau, dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru, yn ogystal â mynd â diwylliant Cymreig i’r byd.
Bydd ymweliadau’n digwydd mewn tua 95 o wledydd ar draws y byd gan gynnwys Seland Newydd, Colombia, Bangladesh, Canada, yr Eidal a Gwlad Belg, a bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau sydd wedi’u cynllunio i gyflawni deilliannau dysgu clir.
Dywedodd Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith: “Dangoswyd bod gweithgareddau cyfnewid rhyngwladol yn cael effaith hynod gadarnhaol ar brofiadau personol a phroffesiynol y rhai sy’n cymryd rhan; maent yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau newydd yn ogystal â safbwyntiau newydd a chyfeillion newydd. Hoffem hefyd i bob unigolyn sydd wedi elwa o gyfleoedd rhaglen Taith ddod yn llysgenhadon dros Gymru, gan gyfleu’r neges i’r byd bod Cymru’n edrych tuag allan, yn gydweithredol, ac yn agored i gysylltiadau rhyngwladol ac arloesedd addysgol.
“Rydym yn gyffrous bod y rhaglenni cyfnewid cyntaf a ariennir gan Taith nawr yn dechrau, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddilyn teithiau’r rhai sy’n cymryd rhan wrth iddynt gychwyn ar brofiad oes gan rannu dysg, ennill profiadau a dysgu am ddiwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.”
Cefnogir rhaglen Taith gan fuddsoddiad hirdymor o £65 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Erbyn 2026, y gobaith yw y bydd 15,000 o bobl o Gymru yn cymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid tramor, ac y bydd 10,000 yn dod i ddysgu, astudio neu weithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn ddiweddar, lansiodd Taith ei rownd ariannu diweddaraf, ‘Llwybr 2’. Dyma rownd sy’n canolbwyntio ar bartneriaethau rhyngwladol dan arweiniad Cymru fydd yn datblygu allbynnau prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â’r sector addysg yng Nghymru, rydym wedi creu rhaglen arloesol sy’n cynnig profiadau sy’n newid bywydau dysgwyr a staff ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae’n hanfodol, yn awr yn fwy nag erioed, fod Cymru’n cael ei gweld yn genedl allblyg a rhyngwladol lle gall dysgwyr a staff o bob rhan o’r byd gyfoethogi ein system addysg yn ogystal â phrofi ein diwylliant unigryw.
“Yr wythnos hon rwyf wedi bod yn trafod gydag ASEau Brwsel sut y gall Taith helpu i greu hyd yn oed rhagor o gyfleoedd yn rhyngwladol.”
Paul Glaze yw Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS), sef y partner arweiniol yng nghonsortiwm Corff Trefnu Sector Ieuenctid Taith sydd hefyd yn cynnwys Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru. “Arweiniodd rownd gyntaf Llwybr 1 at 20 o geisiadau gan y sector ieuenctid (allan o gyfanswm o 70 o geisiadau ar gyfer pob sector); bu 13 ohonynt yn llwyddiannus. Mae’n wych gweld yr arian hwn yn cyrraedd grwpiau nad oeddent yn draddodiadol efallai wedi ystyried eu hunain yn gymwys ar gyfer y mathau hyn o gyfleoedd sy’n newid bywydau; dros y misoedd nesaf mae gennym gôr bychan Cymraeg ei iaith yn teithio i Rufain, a chriw o bobl ifanc o Urdd Gobaith Cymru yn mynd i Seland Newydd.”
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.