Di-dâl (ac eithrio treuliau)
Ymrwymiad amser o 1 diwrnod y mis ar gyfartaledd
Tymor cychwynnol o 2 flynedd
Mae Taith, y rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol ar gyfer Cymru, yn chwilio am chwe aelod i ymuno â’i Bwrdd Cynghori newydd.
Mae Bwrdd Cynghori Taith yn ganolog i strwythur llywodraethu Taith. Ei rôl yw darparu cyngor, arweiniad a her annibynnol i Weithrediaeth Rhaglen Taith a Bwrdd Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Gyfyngedig (ILEP Ltd) ac fe’i cefnogir gan grwpiau rhanddeiliaid sector-benodol.
Mae Bwrdd Cynghori Taith yn chwilio am unigolion profiadol sy’n gallu dangos meddwl strategol, barn annibynnol a’r gallu i gynnig her adeiladol, gyda diddordeb a gwybodaeth am dirwedd addysg a dysgu Cymru. Mae angen dealltwriaeth neu brofiad byw o addysg ryngwladol a chyfnewidiadau dysgu hefyd.
Sylwch – os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, er mwyn bod yn gymwys, does dim hael i aelodau Bwrdd Cynghori fod yn gyflogedig neu fod â rôl llywodraethu ffurfiol mewn sefydliad sydd naill ai’n derbyn cyllid Taith neu a fyddai’n ystyried gwneud cais am gyllid yn y dyfodol yn ystod tymor y rôl.
Darllenwch y fanyleb person lawn.
Mae Taith eisiau sicrhau bod aelodaeth newydd y Bwrdd Cynghori yn cynrychioli gwerthoedd y rhaglen ac amrywiaeth Cymru, ac yn arbennig yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn cyfnewid rhyngwladol – unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, cefndiroedd difreintiedig, pobl anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd Taith yn cymryd camau wedi’u targedu, gan gynnwys gweithio gyda rhwydweithiau sector ac arweinwyr cydraddoldeb ar y broses benodi, i sicrhau’r amrywiaeth hwn.
I wneud cais, anfonwch e-bost sy’n cynnwys:
at office@taith.wales gyda’r llinell pwnc: Cais am rôl aelod o Fwrdd Ymgynghorol Taith. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 12pm, 30 Hydref 2023.
Mae Taith yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg.
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.