Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd
CysylltwchYn atebol i: Cyfarwyddwr Gweithredol Taith
Ymrwymiad Amser: Tua 8 diwrnod yn seiliedig ar ddwy alwad am gyllid y flwyddyn (rhwng 12 a 18 mis)
Deiliadaeth: 2 alwad (hyd at 1.5 flwyddyn) yn y lle cyntaf, yn dibynnu ar yr alwad am gyllid
Dyddiad dechrau arfaethedig: Canol mis Ionawr 2024
Tâl: Hyd at £2,000 mewn unrhyw flwyddyn ariannol, i’w dalu i’r unigolyn, am isafswm o 8 diwrnod o wasanaeth yn seiliedig ar ddwy alwad am gyllid y flwyddyn.
Ynghylch Taith
Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi cyllid i sefydliadau o bob sector addysg yng Nghymru – ysgolion, ieuenctid, addysg oedolion, addysg bellach, addysg a hyfforddiant galwedigaethol ac addysg uwch – i ymgymryd â gweithgareddau cyfnewid dysgu rhyngwladol. Nod Taith yw ariannu cyfleoedd cyfnewid addysgol rhyngwladol cynhwysol a hygyrch ar gyfer dysgwyr a staff ledled Cymru, gyda chyfleoedd i ddysgwyr a staff rhyngwladol ymweld â phartneriaid yng Nghymru.
Crynodeb o’r Swydd
Mae’r Cadeirydd yn goruchwylio’r broses asesu a’r argymhellion ariannu a wneir gan y Pwyllgorau Ariannu. Bydd gan y Cadeirydd gyfrifoldeb dros sicrhau bod y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor yn bodloni’r safonau uniondeb uchaf er mwyn sicrhau defnydd teg o arian cyhoeddus, a bod y penderfyniadau’n cael eu selio ar feini prawf gwrthrychol a chyfiawnadwy, gan fodloni safonau a nodir yng Nghylch Gorchwyl Pwyllgor Ariannu Taith.
Bydd hefyd yn ofynnol i’r Cadeirydd fynychu cyfarfodydd Bwrdd yr International Learning Exchange Partnership Limited (ILEP Ltd) i gyflwyno argymhellion Pwyllgorau Ariannu Taith. Gallai fod cyfrifoldebau eraill yn gysylltiedig â’r rôl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, darllenwch y fanyleb person lawn.
I wneud cais, anfonwch e-bost sy’n cynnwys:
at swyddfa@taith.cymru gyda’r llinell pwnc: Cais am Gadeirydd Pwyllgorau Ariannu Taith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm, dydd Llun 13 Tachwedd 2023.
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.