Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchMae’n bleser gennym gyhoeddi bod Susana Galván wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr Gweithredol newydd Taith.
Fel Cyfarwyddwr Gweithredol, bydd Susana’n gyfrifol am strategaeth, cyflwyniad a pherfformiad cyffredinol Taith, gan weithio gyda thîm o staff uwch Llywodraeth Cymru a’n sectorau targed i hyrwyddo buddiannau a gwerthoedd y rhaglen ar draws Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae Susana’n ymuno Taith o’r Cyngor Prydeinig, lle mae wedi gweithio mewn nifer o rolau rheoli ac arwain mewn gwahanol wledydd ar draws Dwyrain Asia ac Affrica Is-Sahara, yn ogystal ag yma yn y DU.
Ei swydd fwyaf diweddar oedd Cyfarwyddwr Gwlad dros De Affrica a Namibia, a Swyddog Arweiniol Rhanbarthol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant, Affrica Is-Sahara. Roedd hi hefyd yn aelod o Dîm Gweithredol Rhanbarthol y Cyngor Prydeinig a Bwrdd Arweinyddiaeth yr Uchel Gomisiwn Prydeinig yn Ne Affrica.
Yn wreiddiol o Barcelona, Sbaen, ac yn meddu ar genedligrwydd deuol Prydeinig a Sbaeneg, mae Susana wedi ymroi’r rhan fwyaf o’i bywyd academaidd a phroffesiynol i ddysgu ieithoedd a gweithio ym maes cysylltiadau diwydiannau rhyngwladol.
Astudiodd Susana ym mhrifysgolion Barcelona a Leeds, cyn ennill ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Beijing, Prifysgol Normal Genedlaethol Taiwan a Phrifysgol Diwydiant Taipei.
Mae ganddi radd mewn Cyfieithu a Dehongli ac Astudiaethau Tsieineaidd Modern. Mae hi’n rhugl mewn Tsieinëeg Mandarin, Saesneg, Sbaeneg a Chatalaneg.
Yn ddiweddar ac yn ei hamser sbâr, mae hi wedi ymwneud yn fwyfwy â hyrwyddo’r celfyddydau cynhwysol ac addysg gelfyddydol, gan weithio gyda’i gŵr – y fiolinydd a’r arweinydd Prydeinig, Sebastian See-Schierenberg.
Mae Susana’n gadeirydd ar Live4Music, elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU a sefydlodd ar y cyd gyda’i gŵr. Mae’r elusen yn ysbrydoli pobl ifanc drwy gyngherddau, hyfforddiant cerdd a gweithgareddau addysgol o amgylch y byd.
Dywedodd yr Athro Rudolf Alleman, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr ILEP Ltd:
“Rwyf wrth fy modd y bydd Susana yn ymgymryd â’r rôl bwysig hon. Mae ganddi hanes nodedig o uwch arweinyddiaeth a phrofiad ac arbenigedd helaeth ym maes addysg ryngwladol, gan ddod â chyfuniad o weledigaeth strategol glir, arweinyddiaeth golegol a dylanwad cenedlaethol a rhyngwladol gwirioneddol. Rwy’n hyderus y bydd yn rhagori yn y rôl hon ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i’r tîm.”
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.