Wrth i ni nodi’r flwyddyn gyntaf ers lansio’r rhaglen Taith, mae Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith, yn myfyrio ar y daith hyd yn hyn
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymrwymiad i fuddsoddi £65 miliwn tuag at raglen dysgu a chyfnewid ryngwladol ar gyfer Cymru, dros gyfnod o bedair blynedd (2022-2026), mewn ymdrech i barhau â chyfleoedd a oedd yn deillio o Erasmus+, ac ehangu ar y cyfleoedd hynny hefyd, yn Ewrop a thu hwnt.
Roedd y nod yn glir: datblygu rhaglen gynhwysol o gyfleoedd dysgu a theithio, sy’n newid bywydau, mewn cydweithrediad â phartneriaid a dysgwyr ledled Cymru ar gyfer dysgwr ac aelodau o staff ym mhob cwr o Gymru, ac ym mhob math o leoliad addysg: Addysg Oedolion, Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, Addysg Uwch, Ysgolion ac Ieuenctid. Ar yr un pryd, mae sicrhau rhaglen sy’n galluogi sefydliadau yng Nghymru i wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un peth yma yng Nghymru, wedi bod yn hanfodol, ac yn parhau i fod felly.
Erbyn Chwefror 2022, roedd y rhaglen Taith yn realiti a chafodd ei lansio’n swyddogol, gyda’r ymadrodd “Ewch â Chymru i’r Byd, a Dewch â’r Byd i Gymru”.
Fel mae’n digwydd, yr un wythnos ac y cafodd y rhaglen ei lansio, fe gyrhaeddais i Gaerdydd o Johannesburg gyda’m teulu ar ôl bod yn gweithio dramor am dair blynedd gyda fy nghyflogwr blaenorol (y Cyngor Prydeinig); roeddwn i’n dechrau yn fy swydd newydd yn Gyfarwyddwr Gweithredol y rhaglen newydd a chyffrous hon, ac roedd yn ddechrau ar bennod newydd yn ein bywydau, a hynny yng Nghymru.
Wrth i ni agosáu at ein pen-blwydd cyntaf, mae’n amser da i fyfyrio ar y siwrnai hyd yn hyn…
… ac am siwrnai!
Wrth edrych yn ôl, roedd blwyddyn gyntaf Taith yn flwyddyn o sefydlu (ein tîm, ein prosesau, ein systemau, ein llywodraethu…), cyflawni (roedd gennym darged na ellid ei symud ar gyfer rownd gyntaf prosiectau symudedd a fyddai’n dechrau ym mis Medi 2022!), ond hefyd o ddysgu ac – efallai’n fwy annisgwyl – o ddarganfod. Rwy’n dweud darganfod oherwydd roedd ein blwyddyn gyntaf yn golygu mwy na sefydlu asiantaeth symudeddau a chyfnewid rhyngwladol ar gyfer Cymru (er mor bwysig yw hynny!). Ar lefel fwy dirfodol efallai, roedd hefyd yn ymwneud â darganfod ein llais a’n lle a ninnau’n asiantaeth newydd sbon cwbl Gymreig ei hunaniaeth a chwbl ryngwladol ei natur. Asiantaeth ac iddi’i hygrededd ei hun, nid yn unig yng nghyd-destun a thirwedd Cymru, ond y tu hwnt i’w ffiniau. Asiantaeth sy’n dweud wrth y byd fod Cymru yn genedl uchelgeisiol, eangfrydig a chroesawgar, sy’n falch o’i threftadaeth, ei hiaith a’i diwylliant, ac yn un sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cysylltiadau rhyngwladol a chyfnewidiadau. Asiantaeth sy’n ymdrechu i wneud y cyfleoedd hyn yn hygyrch gan sicrhau ei bod ar gael i gynifer o bobl a sefydliadau â phosibl.
Roedd lansiad Taith ym mis Chwefror y llynedd yn achlysur cyffrous, a chofiadwy. Fe’i derbyniwyd â chryn ddiddordeb, cyffro a disgwyliadau. Roedd Cymru yn teimlo’n falch ac roeddem ni’r tîm (roedd yn dîm llawer llai bryd hynny), yn teimlo’n falch hefyd.
Ond erbyn hynny, roedd gennym ni lawer iawn, iawn o waith o’n blaenau!
Ac felly, fis ar ôl y lansiad, ym mis Mawrth 2022, agorwyd galwad ariannu gyntaf Taith ar gyfer Llwybr 1 (symudedd cyfranogwyr). Rwy’n cofio sut y byddem, ar ôl i’r alwad ariannu fynd yn fyw, yn gwirio ein system ar-lein yn llythrennol bob pum munud i weld a oedd unrhyw geisiadau wedi dod i mewn, a phob un ohonom yn gweiddi ac yn clapio pan gyrhaeddodd yr un cyntaf. Roedd yn teimlo fel bod Taith wedi sgorio ei gôl gyntaf!
Roeddem wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r alwad ariannu gyntaf honno: 51 o brosiectau llwyddiannus – gyda 100 o sefydliadau ledled Cymru o’r holl sectorau cymwys yn elwa o ganlyniad i’r prosiectau hyn, a gyda’i gilydd, yn gwireddu dros 6,000 o symudeddau staff a dysgwyr o Gymru ac i mewn i Gymru, mewn partneriaeth â dros 95 o wledydd, tiriogaethau a chenhedloedd ledled y byd. Mae dros £10m yn cael ei ddyfarnu i ariannu’r garfan gyntaf hon o brosiectau.
Rydym wedi bod mor gyffrous i weld y prosiectau hyn yn cael eu gwireddu, ac i weld y straeon go iawn y tu ôl i’r holl “rifau”…
… fel y criw o bobl ifanc o Urdd Gobaith Cymru, a deithiodd i Seland Newydd yn ddiweddar ar gyfer Twrnamaint 7 Bob Ochr Ysgolion y Byd.
… neu’r ymweliad â Lesotho gan griw o fyfyrwyr ac athrawon o Ysgol Penrhyn Dewi, ysgol uwchradd yn Sir Benfro.
… neu stori Agnes Olah, myfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a deithiodd i Wellington i gasglu gwobr ffasiwn ryngwladol fawreddog mewn digwyddiad yr oedd Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern yn bresennol ynddo.
Yn yr hydref, lansiwyd yr alwad ar gyfer Llwybr 2, sy’n canolbwyntio ar gydweithio strategol a phartneriaethau. Derbyniodd yr alwad hon nifer dda o geisiadau hefyd, ac mae’r rhain yn cael eu hasesu ar hyn o bryd. Ac wrth i mi ysgrifennu hwn, rydym yn lansio ein galwad ariannu ar gyfer Llwybr 1, 2023, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ennyn cryn ddiddordeb a cheisiadau o safon o bob cwr o Gymru.
Felly, mae llawer iawn yn digwydd yn Taith!
Yn ogystal â’n galwadau ariannu, cyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022 y byddai Taith hefyd yn ariannu cam 3 Cymru Fyd-eang, rhaglen bartneriaeth uchelgeisiol sydd â’r nod o ddwyn sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru ynghyd o dan un strategaeth ryngwladol gydgysylltiedig ar gyfer recriwtio, cydweithredu a chreu partneriaethau mewn rhanbarthau a gwledydd penodol.
Elfen bwysig a hanfodol arall o Taith yw’r Cyrff Trefnu Sectorau. Sefydliadau yw’r rhain a aeth drwy gais ariannu Taith, hynod cystadleuol, a’u rôl yw codi ymwybyddiaeth ynghylch y rhaglen a rhoi arweiniad a chymorth i sefydliadau yn y sectorau Ieuenctid, Ysgolion ac Addysg i Oedolion. Un o’r prif bethau maent yn ffocysu’n benodol arno yw estyn allan at sefydliadau ac unigolion na fyddent efallai wedi elwa o’r mathau hyn o gyfleoedd yn y gorffennol. Mae cynwysoldeb ac ehangu mynediad yn agwedd hynod bwysig o waith Taith.
Ac, wrth gwrs, gan fod Taith yn rhaglen gyfnewid ryngwladol, mae sicrhau rhagor o amlygrwydd i’r rhaglen a Chymru yn rhyngwladol a chysylltu â phartneriaid rhyngwladol wedi bod yn faes ffocws gwych i ni. Mae wedi bod yn brofiad hynod gweld ymateb mor frwdfrydig i’r rhaglen gan bartneriaid ledled Ewrop a thu hwnt, a’r effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar broffil rhyngwladol Cymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgysylltu â phartneriaid a sefydliadau o dros 30 o ranbarthau a chenhedloedd. Uchafbwynt i mi (a braint) oedd sesiwn ragarweiniol am Taith a gyflwynwyd gyda’r Gweinidog Addysg a’r a’r Gymraeg, Jeremy Miles, yn Senedd Ewrop ym mis Hydref.
Mae’n ddiymwad bod cyfnewidiadau rhyngwladol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau’r unigolion sy’n elwa ohonynt; maent yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau newydd a safbwyntiau newydd, ac mae hefyd yn creu gorwelion a chyfleoedd newydd. Hoffai Taith hefyd i bob unigolyn sydd wedi elwa o’r cyfleoedd a roddwyd drwy’r rhaglen, fod yn llysgenhadon dros Gymru, gan gario’r neges i’r byd bod Cymru’n groesawgar ac yn edrych tuag allan, yn gydweithredol ac yn frwdfrydig dros wneud cysylltiadau rhyngwladol.
Wrth imi fyfyrio ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rwy’n hynod ddiolchgar am y siwrnai hyd yma ac am yr holl gefnogaeth ac arweiniad a gawsom ar hyd y ffordd: gan yr holl sectorau addysg a dysgu ledled Cymru, gan ein cyllidwyr am eu gweledigaeth – Llywodraeth Cymru, gan ein Bwrdd Cynghori arbenigol dan gadeiryddiaeth Kirsty Williams, gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd y Cyfarwyddwyr, gan Gyrff Trefnu Sectorau, gan unigolion ledled Cymru, gan bartneriaid rhyngwladol, gan arbenigwyr rhyngwladol hael, gan ein haseswyr annibynnol… mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Ond mae’n rhaid i mi ddiolch yn arbennig i dîm Taith. Rydym wedi bod ar siwrnai anhygoel (a fu’n heriol ar adegau!) gyda’n gilydd. Mae gwytnwch, angerdd ac ymrwymiad pob aelod o’r tîm i’r rhaglen wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi. Rydym wedi chwerthin ac rydym wedi crio, ond yn bwysicaf oll, rydym yn falch o fod wedi dechrau rhywbeth gwirioneddol arbennig ac unigryw ar gyfer Cymru a fydd, yn y pen draw, yn newid cymaint o fywydau ac yn creu cymaint o atgofion a phrofiadau anhygoel.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn dal i ddysgu ac rydym yn dal i ddarganfod. Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y siwrnai sydd o’n blaenau.
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.