Cysylltwch

Mae Llwybr 2 Taith wedi lansio!

Tri o bobl yn eistedd ar laswellt yn edrych ar ddarn mawr o bapur. Mae gliniadur yn y llun hefyd.

Mae’n bleser gan raglen Taith gyhoeddi bod ein galwad cyllido ar gyfer Llwybr 2 2022 bellach wedi’i lansio’n swyddogol.

Mae Llwybr 2 2022: Partneriaeth a Strategol yn ceisio meithrin partneriaethau a chydweithio strategol drwy brosiectau cydweithredol rhyngwladol, yn ogystal â sicrhau canlyniadau o ansawdd sy’n mynd i’r afael â heriau addysgol ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Byddwn yn ariannu prosiectau rhwng sefydliadau cymwys a’u partneriaid rhyngwladol sydd am gydweithio a rhannu eu harbenigedd a’u harferion gorau tuag at nod strategol, ac mae’n agored i’r sectorau Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, Addysg Oedolion, Ysgolion ac Ieuenctid yng Nghymru.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd y bartneriaeth neu’r consortia wedi cynhyrchu adnodd, offeryn neu allbwn ymarferol arall sy’n mynd i’r afael â mater neu sy’n hybu arferion da yn y sectorau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru.

Sut i gymryd rhan

Dechreuwch trwy nodi partneriaid posibl ac ystyriwch yr hyn y mae eich prosiect am fynd i’r afael ag ef. Rhaid i’r prosiectau hyn fod â ffocws strategol a chynllun clir i gyflawni deilliannau penodol.

Mae’r tudalennau Cyllido ar ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i’ch arwain drwy’r broses ymgeisio.  Rydym hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein i gynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw un sydd naill ai’n ystyried cymryd rhan, neu sydd eisoes yn gwneud hynny.

Amserlen

Lansio Llwybr 2 2022 ar 5 Hydref 2022. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 12pm (canol dydd) ar 1 Rhagfyr 2022. Bydd tîm Taith yn cynorthwyo’r sectorau drwy gynnal gweminarau a sesiynau holi ac ateb yn ystod y cyfnod hwn. Gallwch hefyd gysylltu â ni unrhyw bryd: enquiries@taith.cymru

Pam cymryd rhan?

Bydd y prosiectau hyn yn creu allbynnau arloesol a chyffrous gan gynnig buddion hirdymor a phellgyrhaeddol i sefydliadau Cymreig sy’n cymryd rhan, eu partneriaid rhyngwladol a’r sectorau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid ehangach yng Nghymru:

  • creu partneriaethau rhyngwladol newydd hirdymor a chaniatáu i’r rhai sy’n bodoli eisoes barhau
  • rhoi cyfleoedd i gysylltu symudedd â chydweithio, gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd partneriaid rhyngwladol mewn meysydd o ddiddordeb a rennir
  • sicrhau bod Cymru yn agored i gydweithio, o ran rhannu arferion gorau y tu allan i Gymru, yn ogystal â galluogi Cymru i fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol
  • ysgogi cyfleoedd newydd a chyffrous i gyfnewid, mynd i’r afael â’r hyn a wnaeth rhwystro rhai rhag cymryd rhan Llwybr 1 Taith, ac arwain at ymgysylltu’n well â rhaglen Taith yn gyffredinol.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr 2 2022 cysylltwch â thîm Taith drwy ebostio ymholiadau@taith.cymru

 

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.