Rhaglen newydd o’r enw Taith yn creu cyfleoedd rhyngwladol i newid bywydau dysgwyr ac addysgwyr yng Nghymru
Mae Taith – rhaglen cyfnewid rhyngwladol gwerth £65 miliwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru – yn cael ei lansio heddiw.
Mae’r rhaglen yn creu cyfleoedd i ddysgwyr a staff o bob rhan o Gymru fynd ar gyfnewidiadau o amgylch y byd, a bydd yn dod â dysgwyr a staff o bob rhan o’r byd i Gymru.
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd Taith yn ceisio galluogi 15,000 o bobl o Gymru i fynd dramor a 10,000 o bobl i astudio neu weithio yng Nghymru.
Bydd y galwad cyntaf am geisiadau yn agor ddechrau mis Mawrth, gyda chyfnewidiadau yn dechrau o fis Medi 2022.
Mae cyllid ar gael ar gyfer sectorau addysg ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau ieuenctid, addysg bellach a galwedigaethol, addysg oedolion ac addysg uwch.
Cynlluniwyd y rhaglen i sicrhau bod cyfleoedd dysgu rhyngwladol ar gael i bobl o bob cefndir ac ardal yng Nghymru, a chynnig cyfleoedd gwell i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a phobl o gefndiroedd difreintiedig.
Dywedodd Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith: “Mae Taith yn rhaglen eang, gynhwysol a dwy ffordd. Yn ogystal â galluogi pobl i gael profiadau o leoedd a diwylliannau newydd i ehangu eu gorwelion a datblygu sgiliau newydd, bydd hefyd yn galluogi Cymru fel cenedl i estyn ar draws y byd, er mwyn adeiladu partneriaethau newydd a rhoi ei hun wrth galon cydweithio rhyngwladol ac arloesedd a datblygu ym maes addysg”.
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:
“Mae’n bwysicach nag erioed heddiw i gadw ein golygon ar y byd ehangach. Mae lansio Taith yn adeiladu ar ein hymrwymiad i gryfhau proffil rhyngwladol Cymru fel cenedl agored sy’n edrych tuag allan.
Mae’n rhaglen sy’n rhoi ein holl ddysgwyr ac addysgwyr Cymraeg wrth wraidd y prosiect, gan ganiatáu iddynt weithredu fel ein llysgenhadon byd-eang sy’n hyrwyddo arloesedd a diwylliant Cymru lle bynnag y maent yn mynd.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg:
“Mae rhaglen Taith wedi’i chreu’n arbennig yng Nghymru a bydd yn cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau staff a myfyrwyr fel ei gilydd i ddysgu neu astudio dramor.
“Bydd Taith hefyd yn galluogi myfyrwyr ac addysgwyr o bob cwr o’r byd i ddod i Gymru i gyfoethogi ein haddysg a’n gwaith ieuenctid gyda syniadau newydd, gan ddod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth a diwylliant i’n hystafelloedd dosbarth a’n campysau.”
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.