Cysylltwch

Ymgeisiwch nawr i gael cyllid gan Taith fydd yn newid bywydau

Tîm Taith yn sefyll mewn llinell a gwenu ar y camera.

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod ein galwad cyllido ar gyfer Llwybr 1 2023 (2022) bellach wedi’i lansio’n swyddogol.

Mae prosiectau Llwybr 1 yn rhoi symudedd corfforol a rhithwir i’r tu allan ac o’r tu allan ar gyfer unigolion neu grwpiau, gan roi cyfleoedd byr a hirdymor hyblyg i ddysgu, astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor.

Cafodd cyllid Llwybr 1 y llynedd ei ddyfarnu i 46 o sefydliadau o bob cwr o Gymru a oedd yn llwyddiannus yn eu ceisiadau, a bydd teithiau’n cael eu cynnal mewn 100 o wledydd ledled y byd bron iawn, gan gynnwys Seland Newydd, Colombia, Bangladesh, Canada, yr Eidal a Gwlad Belg, a bydd y rhain yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau a luniwyd er mwyn bodloni canlyniadau dysgu clir.

Un ysgol lwyddiannus oedd Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi a gafodd gyllid i fynd â 10 disgybl a 3 athro ar daith i Lesotho yn Ne Affrica i ymweld â’u hysgol bartner.

Dyma a ddywedodd yr athro, Jacob Jones: “Cafodd ein disgyblion brofi diwylliant a ffordd newydd o fyw, ac roedd fy nghydweithwyr a minnau wedi mwynhau cydweithio gyda’r athrawon yn fawr ar nifer o weithgareddau a gwersi gwahanol, a daethon ni yn ôl wedi inni gael ein hysbrydoli i rannu syniadau newydd. Rydyn ni’n falch iawn bod y cyllid hefyd yn golygu y gall athrawon a myfyrwyr o Mahloenyeng ymweld â ni yn Nhyddewi ym mis Mehefin. Dyma brofiad sy’n newid bywyd pob un ohonon ni’n llwyr ac yn gyfle na fyddai erioed wedi digwydd oni bai am gyllid Taith.”

Pwy sy’n cael ymgeisio?

Rydym yn annog ceisiadau gan y sectorau canlynol:

  • Addysg i Oedolion
  • Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
  • Addysg uwch
  • Ysgolion
  • Ieuenctid

Sut i gymryd rhan

Ar dudalennau Cyllido ein  gwefan mae gwybodaeth ddefnyddiol fydd yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio.

Rydym hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein i gynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw un sydd naill ai’n ystyried cymryd rhan, neu sydd eisoes yn gwneud hynny.

Amserlen

Agor Llwybr 1 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Caiff hysbyseb o ganlyniadau eu hanfon i’r holl sefydliadau sy’n gwneud cais

Gall prosiectau ddechrau

Cysylltwch â thîm Taith unrhyw bryd: ymholidau@taith.cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.