Cysylltwch

Polisi Preifatrwydd Taith

Mae Taith yn rhaglen gyfnewid ryngwladol er dysgu. Fe’i sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau ar gyfer pobl yng Nghymru, er mwyn iddynt gael dysgu, astudio a gwirfoddoli ym mhob cwr o’r byd.

Rydym yn ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg. Mae Taith ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o leoliad addysg. Y sectorau sy’n gymwys i gael cyllid yw:

  • Ysgolion
  • Gwaith Ieuenctid
  • Addysg Oedolion
  • Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
  • Addysg Uwch (sy’n cynnwys Addysg ac Ymchwil)

Taith yw’r rheolwr data ar gyfer y rhaglen a Phrifysgol Caerdydd a thrydydd partïon dan gontract yw’r prosesydd data lle bo’n briodol.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Er mwyn eich helpu i ddeall sut mae eich data personol yn cael ei brosesu mae Taith wedi nodi yn ei hysbysiad diogelu data pa wybodaeth y mae’n ei chadw, pam bod ar Taith ei hangen, y sail gyfreithiol dros ei phrosesu ac i bwy y gellir trosglwyddo’r data hwnnw. Gallwch weld hefyd sut caiff eich gwybodaeth ei diogelu ac am ba mor hir y caiff ei chadw. Ein Hysbysiadau:

Polisi preifatrwydd

Rhestr bostio

Pan fyddwch yn cofrestru i ymuno â’n rhestr bostio, y categori o ddata personol y byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn yw:

  • Cyfeiriad ebost

Mynegi diddordeb – Partneriaid rhyngwladol

Pan fyddwch yn mynegi diddordeb mewn bod yn bartner rhyngwladol ar ran eich sefydliad, y categorïau o ddata personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn yw:

  • Enw
  • Enw’r sefydliad
  • Gwlad
  • Sector
  • Thema (âu) prosiect o ddiddordeb
  • Math o sefydliad y mae gennych ddiddordeb mewn creu partneriaeth ag ef
  • Cyfeiriad ebost person cyswllt

Ceisiadau ariannu/prosiectau a ariennir

Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid ar ran eich sefydliad, dyma’r categorïau o ddata personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn:

  • Enw’r sawl sy’n gwneud y cais
  • Cyfeiriad ebost y sawl sy’n gwneud y cais
  • Rhif ffôn y sawl sy’n gwneud y cais
  • Swydd y sawl sy’n gwneud y cais
  • Enw cynrychiolydd cyfreithiol y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Cyfeiriad ebost cynrychiolydd cyfreithiol y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Rhif ffôn cynrychiolydd cyfreithiol y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Swydd cynrychiolydd cyfreithiol y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Enw’r Prif Swyddog Ariannol neu gyfwerth ar gyfer y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Cyfeiriad ebost y Prif Swyddog Ariannol neu gyfwerth ar gyfer y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Rhif ffôn y Prif Swyddog Ariannol neu gyfwerth ar gyfer y sefydliad sy’n gwneud y cais
  • Swydd y Prif Swyddog Ariannol neu gyfwerth ar gyfer y sefydliad sy’n gwneud y cais

Ceisiadau i fod yn aseswr grantiau

Pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn aseswr grantiau, y categorïau o ddata personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn yw:

  • Enw
  • Cyfeiriad ebost
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad cyswllt
  • Manylion banc (ymgeiswyr llwyddiannus yn unig)

Y sawl sy’n cyfrannu mewn prosiectau a ariennir

Rydym yn casglu’r wybodaeth ofynnol ganlynol ynghylch pawb sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau cyfnewid.

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad ebost
  • Cyfeiriad a chôd post eich cartref
  • Cysylltiadau brys a rhifau ffôn
  • Grŵp blwyddyn
  • Enw eich Ysgol/Coleg
  • Cyrhaeddiad Addysgol
  • Cyflwr meddygol neu anableddau1
  • Anghenion o ran trefniadau arbennig e.e., gofynion o ran mynediad neu anghenion diwylliannol

Rydym hefyd yn gofyn am wybodaeth y gellir dewis ei rhoi neu beidio ynghylch:

  • Cydsyniad ar gyfer lluniau a ffilmiau – yn ystod digwyddiadau, efallai byddwn yn tynnu lluniau ac yn recordio ffilmiau ac yn eu cyhoeddi at ddibenion marchnata, ar ein gwefan er enghraifft, neu yn ein cylchlythyr neu drwy ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol
  • P’un a hoffai cyfranogydd/rhiant/gwarcheidwad dderbyn cyfathrebu marchnata gan Taith a Phrifysgol Caerdydd ynghylch gweithgareddau perthnasol eraill
  • Dewis iaith
  • P’un a yw’r cyfranogydd yn cael prydau ysgol am ddim 2
  • Statws ceisydd lloches3
  • P’un a aeth rhiant (rhieni) y cyfranogydd neu frodyr a chwiorydd i’r brifysgol 2
  • p’un a oes gan y cyfranogydd brofiad o fod yn y system ofal 3
  • Rhywedd1
  • Ethnigrwydd.1

Ar gyfer Lleoliad Cyfnewid er Astudio sy’n daith o Gymru dramor, neu o dramor i Gymru

Mae Taith yn gofyn am wybodaeth orfodol ychwanegol ac am ail-gadarnhau’r wybodaeth honno wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfnewid fel y gall staff a thrydydd partïon sy’n cyflawni ar ran Taith, roi cymorth priodol a sicrhau iechyd a diogelwch pob cyfranogydd ac aelod o’r staff. Ymhlith y wybodaeth hon mae:

  • Personau cyswllt mewn argyfwng a’u rhifau ffôn
  • Cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt yn y wlad
  • Anghenion o ran trefniadau arbennig e.e., gofynion o ran mynediad neu anghenion diwylliannol
  • Alergeddau/gofynion deietegol.
  • Cyflwr meddygol neu anableddau1
  • Trefniadau meddygol
  • Meddyginiaeth a gymerir
  • Rhywedd
  • Sefydliad astudio (Cartref a Chyfnewid)
  • Y Cwrs Cyfnewid
  • Gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â chymhwysedd i gael cyllid grant
  • Manylion pasbort a fisa
  • Euogfarnau troseddol (i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â pholisiau derbyn partneriaid cyfnewid a/neu fel sy’n ofynnol ar gyfer cydymffurfio â rheolau’r fisa)

1Ni fydd gwybodaeth ynghylch anableddau, rhywedd, neu ethnigrwydd yn cael ei rhannu â thrydydd partïon ond fe’i defnyddir mewn ffurf ddienw mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â’r rhaglen.
2Nid yw gwybodaeth ynghylch prydau am ddim yn yr ysgol neu berthnasau a aeth i’r brifysgol yn hanfodol, ond mae’n ein galluogi i gofnodi nifer y cyfranogwyr a allai fod yr aelodau cyntaf o’u teuluoedd i fynd i’r brifysgol.
3Nid yw gwybodaeth ynghylch statws ceisiwr lloches a phrofiad o’r system ofal yn hanfodol, ond mae’n ein galluogi i gofnodi grwpiau a dangynrychiolir a sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth o ran cael mynediad at rai digwyddiadau. Ni fydd yn cael ei rhannu â thrydydd partïon ond fe’i defnyddir mewn ffurf ddienw mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â’r rhaglen.

Rydym yn casglu data ynghylch unigolion am y prif resymau canlynol:

  • Er mwyn gallu cyfathrebu ag ymgeiswyr ynglŷn â’u cais.
  • I brosesu ceisiadau.
  • I sefydlu addasrwydd ar gyfer cyllid.
  • I gyfathrebu â’r sawl sydd ynghlwm â phrosiectau sydd yn cael eu cyllido, a bod o gymorth i’r prosiectau hynny.
  • At ddibenion monitro, sy’n ein galluogi i wneud y canlynol:
    • bodloni gofynion adrodd allanol gorfodol i gyrff rheoleiddio megis Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), fel sy’n ofynnol er mwyn cydymffurfio ag Amodau a Thelerau Cyllid Grant Taith
    • rhoi darlun clir o’r gweithgareddau rydym yn eu cynnal a’r bobl rydym yn gweithio gyda hwy
    • sicrhau ein bod yn cyrraedd y rheini a allai elwa fwyaf o ymwneud â gweithgareddau Taith.
  • At ddibenion ymchwil a gwerthuso sy’n ein helpu i asesu effeithiolrwydd mentrau gwahanol i ehangu cyfranogiad ym maes Addysg Uwch. Mae hyn yn cynnwys olrhain dros y tymor hir, deithiau addysgol y cyfranogwyr, er mwyn canfod faint o’r bobl sy’n cymryd rhan yn Taith sy’n mynd ymlaen i astudio mewn rhaglen gyfnewid.
  • Adnabod y cyfranogwyr sy’n perthyn i grwpiau a dangynrychiolir ym maes addysg a sicrhau bod pobl yn y grwpiau hyn yn cael y flaenoriaeth o ran cyrchu gweithgareddau ehangu cyfranogiad eraill. I gael rhagor o wybodaeth am hyn gweler https://www.hefcw.ac.uk/cy/ein-cyfrifoldebau/ehangu-mynediad/
  • Sicrhau iechyd, diogelwch a lles pawb sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni a chynorthwyo o ran anghenion bugeiliol a lles, e.e. gwneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o gyflyrau meddygol ac anableddau.
  • Anfon gwybodaeth berthnasol ac angenrheidiol ynghylch gweithgareddau sydd ar y gweill, yn ogystal â deunyddiau marchnata.

Y sail gyfreithiol dros brosesu ceisiadau i gymryd rhan yn y Rhaglen Gyfnewid a chael cyllid grant yw Cyflawni Contract.

Mae annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn addysg yng Nghymru a hyrwyddo Cymru a diwylliant Cymreig yn elfen allweddol o bolisi addysg Llywodraeth Cymru ac mae hyn yn rhan o genhadaeth ddinesig y Brifysgol. Mae Taith yn prosesu data personol yn ôl yr angen er mwyn iddi gyflawni tasg er budd y cyhoedd ac at ddibenion ei swyddogaethau swyddogol.

Y sail gyfreithiol dros brosesu data categorïau arbennig yw bod hyn yn rhoi budd sylweddol i’r cyhoedd ac mae’n angenrheidiol at ddibenion ystadegol monitro cyfle cyfartal yn unol â Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cydsyniad yw’r sail gyfreithiol dros brosesu’r defnydd o luniau a chyfathrebu marchnata.

Nid ydym yn prosesu unrhyw ddata ynghylch plant 16 oed neu’n iau sy’n parhau i fod yn cael addysg orfodol, heb gydsyniad penodol gan riant/gwarcheidwad.

  1. Bydd Taith yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i roi gwybodaeth ichi am Taith ac i anfon deunyddiau marchnata atoch am y cyfleoedd sydd ar gael o ran eich dewis i dderbyn gohebiaeth o’r fath.
  2. Gall Tîm Taith ddefnyddio’r wybodaeth hon i greu cronfa ddata o ddatganiadau o ddiddordeb mewn perthynas â chael cyllid grant a chymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid, a bydd y data hwn yn cael ei storio ar weinydd diogel yn y Brifysgol. Aelodau o staff Prifysgol Caerdydd a thrydydd partïon sy’n darparu gweithgareddau dan gontract, yn unig, a fydd yn gallu cyrchu’r wybodaeth hon.
  3. Mae gwybodaeth y sawl sy’n cymryd rhan yn cael ei gwirio’n weledol a’i throsglwyddo o’r ffurflenni ar-lein i’r gronfa ddata ddiogel ar-lein.
  4. At ddibenion monitro ac ymchwil, efallai y bydd data gorfodol yn cael ei brosesu gan drydydd parti dan gontract i’r Brifysgol neu RhCDRh Cyf, gan gynnwys HEAT (Olrhain Mynediad at Addysg Uwch) ac UCAS i’n galluogi i olrhain llwybr addysgol hirdymor y sawl sy’n cymryd rhan, i fyd Addysg Uwch.
  5. Mae’r adrodd mewnol ac allanol yn ei gyfanrwydd yn defnyddio’r data a gasglwyd, gan wneud hynny mewn modd cyfanredol, sy’n golygu mai dim ond cyfansymiau sy’n cael eu dangos. Felly, nid yw data unigolyn yn cael ei ddatgelu mewn adroddiad, ar unrhyw adeg.

Byddwn ni’n cadw data cyfranogwyr yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru am leiaf 12 mlynedd o ddiwedd cyfnod cyllido 2027 a byddwn yn dinistrio data personol cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i ni wneud hynny.

Caiff cofnodion papur eu cadw mewn swyddfa ddiogel ac electronig mewn cronfa ddata ddiogel ar-lein am gyfnod o 12 mlynedd wedi’r digwyddiad, gyda’r data yn cael ei adolygu’n flynyddol ar 31 Awst.

Bydd data sy’n cael ei rannu/gysylltu â thrydydd partïon at ddibenion ymchwil yn aros yng nghronfeydd data’r trydydd partïon am oes eu prosiectau, gan na fydd modd bellach adnabod unigolion.

Gyda phwy fydd eich data personol yn cael ei rannu y tu allan i Taith?

Os ydych wedi nodi eich bod yn cydsynio i dderbyn deunydd marchnata, bydd data personol hefyd yn cael ei rannu gyda Blue Stag sef cwmni marchnata a fydd yn cynorthwyo â’r gwaith o sefydlu gwefan Taith a gallai anfon cyfathrebiadau marchnata ar ran Taith.

Bydd Data Personol yn cael ei rannu â’r darparwyr addysgol perthnasol i hwyluso eich cais i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid gyda’r darparwr addysgol hwnnw.

Bydd data ystadegol a dienw hefyd yn cael ei rannu â:

Mae data personol (enw, cyfeiriad ebost,) yn cael ei gadw gan Bluestag.co.uk, bydd Mailchimp yn prosesu ac yn cadw data yn yr UE ac efallai y bydd Google yn trosglwyddo eich data y tu allan i’r AEE. Mae sefydliadau gan gynnwys Bluestag.co.uk, sy’n prosesu data personol ar ran y rhaglen, dan rwymedigaeth Cytundeb Prosesu Data a fydd yn amlinellu’r rheidrwydd i brosesu data personol yn unol â’r holl ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Mae data personol sy’n ymwneud â cheisiadau a phrosiectau a ariennir yn cael ei gadw gan JotForms.com. Bydd Jotforms yn prosesu ac yn cadw data yn yr UE a gallai Jotforms drosglwyddo eich data y tu allan i’r AEE. Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran y rhaglen, gan gynnwys Jotforms, dan rwymedigaeth Cytundeb Prosesu Data fydd yn amlinellu’r rheidrwydd i brosesu data personol yn unol â’r holl ddeddfwriaeth ynghylch Diogelu Data.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych hawliau ynghylch eich data personol. Hwyrach y bydd hyn yn cynnwys: peidio â chaniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu, cyrchu eich gwybodaeth bersonol, ei chywiro, ei dileu, cyfyngu arni a’i throsglwyddo. I gael rhagor o wybodaeth, gweler https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection/your-data-protection-rights

cysylltwch ag enquiries@taith.wales i wneud y cais

Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i Taith gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Golyga hyn y bydd cyfrinachedd parthed eich manylion yn cael ei barchu, ac y cymerir yr holl gamau priodol i sicrhau na fydd cyrchu a datgelu manylion mewn ffordd anawdurdodedig yn digwydd. Dim ond staff y mae’n rhaid iddyn nhw gyrchu rhannau perthnasol o’ch data fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Defnyddir cyfrinair a/neu gyfyngiadau diogelwch eraill ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol electronig, a bydd ffeiliau papur yn cael eu cadw mewn mannau diogel a chyfyngir ar bwy all gyrchu’r rhain.

Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o brosesu data yn cael ei wneud ar ran Taith gan sefydliad a gontractiwyd at y diben hwnnw. Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran y rhaglen dan rwymedigaeth Cytundeb Prosesu Data a fydd yn amlinellu eu hymrwymiad i brosesu data personol yn unol â’r holl ddeddfwriaeth ynghylch Diogelu Data.

Os ydych yn anfodlon ar y modd y proseswyd eich data personol, gallwch gysylltu yn y lle cyntaf â:

Swyddog Diogelu Data RhCDRh Cyf.
Taith
Uned 5a Sbarc
Caerdydd
CF24 4HQ

Ebost: enquiries@taith.wales

Os byddwch yn anfodlon o hyd, mae gennych yr hawl i wneud cais am benderfyniad yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
www.ico.org.uk

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.