Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchA hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Chloe yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm Taith gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall cyfnewid rhyngwladol ei wneud i rywun. Mae gallu gweithio mewn tîm i helpu i wneud hyn yn bosibl i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru yn bleser pur.
Susana sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am strategaeth, perfformiad a chyflwyniad llwyddiannus Rhaglen Taith. Mae Susana yn gweithio gydag uwch staff o Lywodraeth Cymru a sectorau targed y Rhaglen i hyrwyddo buddiannau a gwerthoedd Taith ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Roeddwn yn gyffrous iawn i ymuno â Taith ym mis Chwefror 2022 ac i arwain tîm mor wych a rhaglen mor unigryw ac arloesol i Gymru. Nod Taith yw creu cyfleoedd symudedd a chyfnewid bywydau, pellgyrhaeddol i bobl ledled Cymru, ar draws pob sector. Mae addysg a chyfnewidiadau rhyngwladol, a dealltwriaeth draws-ddiwylliannol yn feysydd yr wyf yn wirioneddol angerddol amdanynt, nid yn unig fel rhywun a elwodd ar brofiadau fel person ifanc, ond hefyd gan mai dyma’r meysydd gwaith yr wyf wedi ymroi i fy mywyd proffesiynol yn ei gyfanrwydd. Rwy’n falch ac yn freintiedig iawn i fod yn rhan o raglen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer Cymru, gyda Chymru a chan Gymru, ac o’r hyn y mae Taith mor uchelgeisiol a beiddgar yn anelu at ei gyflawni. Edrychaf ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu darparu i’w chyfranogwyr, y rhai sy’n mynd o Gymru i’r byd yn ogystal ag o’r byd i Gymru, ac i glywed popeth am eu “taith” unigryw gyda Taith!
Elid sy’n gyfrifol am weinyddiaeth ddydd-i-ddydd a gweithrediadau ariannol rhaglen Taith. Elid sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno platfform o systemau, prosesau a gweithdrefnau i gynorthwyo Taith.
Mae’n rhaglen sydd â chyfoeth o gyfleoedd a phosibiliadau a allai newid bywydau nifer fawr o bobl. Mae cael bod yn rhan o ‘raglen gyntaf o’i math i Gymru’ yn gyffrous iawn ac yn rhoi boddhad i mi.
A minnau’n Swyddog Grantiau, byddaf yn helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.
Mae gennyf 14 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg bellach a chefnogi’r rhai na fyddent fel arall wedi gallu manteisio ar y cyfleoedd a gawsant i ddysgu. Rwyf mor falch o allu defnyddio fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a’m hangerdd wrth weithio gyda thîm Taith er mwyn helpu’r rhai sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i gymryd rhan mewn rhaglen mor arloesol a chyffrous.