Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchYn ei rôl, mae Claire yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr. Mae Claire yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac yn cyfrannu at y nodau strategol hirdymor yn Rhaglen Taith.
Dwi wrth fy modd fy mod yn rhan o’r tîm yma gan fod gen i brofiad personol o fanteision rhaglenni cyfnewid. Dyma gyfle cyffrous i ddysgwyr yng Nghymru ddysgu gan eraill yn rhyngwladol yn ogystal a chyfle i ni groesawu ymwelwyr rhyngwladol ac arddangos Cymru ar ei gorau. Fy mwriad yw rhannu positifrwydd a chefnogi’r holl dîm ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r holl heriau sydd o’n blaenau.”
A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Chloe yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm Taith gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall cyfnewid rhyngwladol ei wneud i rywun. Mae gallu gweithio mewn tîm i helpu i wneud hyn yn bosibl i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru yn bleser pur.
Swyddog Grantiau, yw Matthew ac mae’n helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.
asd@asd.comBûm yn gweithio ar Erasmus+ yn y gorffennol ac rydw i wedi clywed llawer o straeon ysbrydoledig am yr effaith y mae symudedd rhyngwladol wedi’i chael ar y rhai sydd wedi cymryd rhan. Rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o dîm Taith sy’n gweithio ar raglen mor gyffrous a fydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgwyr Cymru.
Mae Leah yn monitro, yn cefnogi ac yn cynllunio amserlenni, adnoddau a chapasiti. Mae Leah yn ymwneud â’r rhan fwyaf o bortffolios gan gynnwys llywodraethu, Adnoddau Dynol, systemau TG, prosesau grantiau a chyfathrebu ar gyfer y rhaglen.
Rwy’n credu bod gan Taith y potensial i agor cyfleoedd i gynifer o bobl ledled Cymru a’r byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wybod rhagor am y sefydliadau a’r prosiectau a all gynnig y rhain a sut y gallwn eu helpu i wneud hyn. Mae gennym dîm ymroddedig ac angerddol iawn ac rwy wrth fy modd yn gweithio gyda nhw. Mae gen i lawer o brofiad o reoli rhaglenni grant yn y sectorau gwirfoddol ac ieuenctid yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â meddu ar gefndir mewn datblygu cynnwys systemau TG.