Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy

Cysylltwch

Dr. Elid Morris

Pennaeth Gweithrediadau
Elid Morris - Pennaeth Gweithrediadau

Elid sy’n gyfrifol am weinyddiaeth ddydd-i-ddydd a gweithrediadau ariannol rhaglen Taith. Elid sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno platfform o systemau, prosesau a gweithdrefnau i gynorthwyo Taith.

Mae’n rhaglen sydd â chyfoeth o gyfleoedd a phosibiliadau a allai newid bywydau nifer fawr o bobl. Mae cael bod yn rhan o ‘raglen gyntaf o’i math i Gymru’ yn gyffrous iawn ac yn rhoi boddhad i mi.

Aelodau staff eraill

Michele Dineen - Swyddog Ariannol

Michele Rogers

Swyddog Ariannol

Mae Michele yn edrych ar brosesau a gweithdrefnau Taith, ac yn cynorthwyo gyda gweinyddiaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ariannol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer y Rhaglen.

Mae’n deimlad cyffrous cael bod yn rhan o fenter newydd a chyfrannu at raglen Taith. Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes cyllideb yn bennaf yn y sector preifat, ond mae gen i flynyddoedd o brofiad yn y sector cyhoeddus hefyd. Fy swydd ddiwethaf oedd Swyddog Cyfrifon a Chyllid ar gyfer cwmni newydd. Rwy’n siŵr y bydd Taith yr un mor heriol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm.

Rebecca Payne - Swyddog Prosiect ar Ysgolion

Rebecca Payne

Swyddog Prosiect ar Ysgolion

Yn ei rôl, mae Rebecca yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr.

Ar ôl gweithio ar Erasmus+ ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae gwaith rhyngwladol yn ei chael ar rhai sy’n cymryd rhan. Rwyf ar ben fy nigon mod wedi ymuno â rhaglen Taith ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr o Ysgolion ledled Cymru fel bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu elwa o’r rhaglen.

Logo Taith

Guy Williams

Cefnogi Systemau / Dadansoddwr Datblygwr

Mae Guy yn gweithio yn rhan o’r tîm darparu gwasanaethau proffesiynol. Maen nhw’n darparu gwasanaeth TG effeithlon ac effeithiol o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i holl dîm Taith.

‘Roedd yn gyfle gwych i mi ymuno â Taith ym mis Mai. Maen nhw’n dîm mor hyfryd i weithio gyda nhw. Mae’r rhaglen hon yn unigryw, a’r cyntaf o’i math yng Nghymru.  Nod y rhaglen yw rhoi profiadau i bobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ledled y byd, a newid eu bywydau.  Mae’n fraint bod yn rhan o’r rhaglen gyffrous, werth chweil hon.’