Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchHelen sy’n arwain y gwaith gweinyddu cyllidebol ac mae hefyd yn paratoi adroddiadau cyllidebol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer rhaglen Taith.
Rwy’n gyffrous fy mod yn chwarae rhan fach yn y tîm wrth greu cyfleoedd sy’n newid bywydau drwy raglen Taith. Rwy’n dod â 30 mlynedd o brofiad o weithio â chyllidebau mewn amrywiol ddiwydiannau (Banc Lloyds a’r BBC) gan gynnwys bod yn rhan o’r gwaith adrodd allanol ar gyfer prosiect grant blaenllaw Gwasanaeth y Byd y BBC W2020 (£289 miliwn) dros bedair blynedd gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad / Yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn canolbwyntio ar newidiadau digidol, fideo a symudol ar gyfer amrywiol ieithoedd ledled y byd.
Mae Leah yn monitro, yn cefnogi ac yn cynllunio amserlenni, adnoddau a chapasiti. Mae Leah yn ymwneud â’r rhan fwyaf o bortffolios gan gynnwys llywodraethu, Adnoddau Dynol, systemau TG, prosesau grantiau a chyfathrebu ar gyfer y rhaglen.
Rwy’n credu bod gan Taith y potensial i agor cyfleoedd i gynifer o bobl ledled Cymru a’r byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wybod rhagor am y sefydliadau a’r prosiectau a all gynnig y rhain a sut y gallwn eu helpu i wneud hyn. Mae gennym dîm ymroddedig ac angerddol iawn ac rwy wrth fy modd yn gweithio gyda nhw. Mae gen i lawer o brofiad o reoli rhaglenni grant yn y sectorau gwirfoddol ac ieuenctid yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â meddu ar gefndir mewn datblygu cynnwys systemau TG.
A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Chloe yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm Taith gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall cyfnewid rhyngwladol ei wneud i rywun. Mae gallu gweithio mewn tîm i helpu i wneud hyn yn bosibl i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru yn bleser pur.
Elid sy’n gyfrifol am weinyddiaeth ddydd-i-ddydd a gweithrediadau ariannol rhaglen Taith. Elid sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno platfform o systemau, prosesau a gweithdrefnau i gynorthwyo Taith.
Mae’n rhaglen sydd â chyfoeth o gyfleoedd a phosibiliadau a allai newid bywydau nifer fawr o bobl. Mae cael bod yn rhan o ‘raglen gyntaf o’i math i Gymru’ yn gyffrous iawn ac yn rhoi boddhad i mi.