Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchA minnau’n Swyddog Grantiau, byddaf yn helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.
Mae gennyf 14 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg bellach a chefnogi’r rhai na fyddent fel arall wedi gallu manteisio ar y cyfleoedd a gawsant i ddysgu. Rwyf mor falch o allu defnyddio fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a’m hangerdd wrth weithio gyda thîm Taith er mwyn helpu’r rhai sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i gymryd rhan mewn rhaglen mor arloesol a chyffrous.
Yn ei rôl, mae Rebecca yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr.
Ar ôl gweithio ar Erasmus+ ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae gwaith rhyngwladol yn ei chael ar rhai sy’n cymryd rhan. Rwyf ar ben fy nigon mod wedi ymuno â rhaglen Taith ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr o Ysgolion ledled Cymru fel bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu elwa o’r rhaglen.
Helen sy’n arwain y gwaith gweinyddu cyllidebol ac mae hefyd yn paratoi adroddiadau cyllidebol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer rhaglen Taith.
Rwy’n gyffrous fy mod yn chwarae rhan fach yn y tîm wrth greu cyfleoedd sy’n newid bywydau drwy raglen Taith. Rwy’n dod â 30 mlynedd o brofiad o weithio â chyllidebau mewn amrywiol ddiwydiannau (Banc Lloyds a’r BBC) gan gynnwys bod yn rhan o’r gwaith adrodd allanol ar gyfer prosiect grant blaenllaw Gwasanaeth y Byd y BBC W2020 (£289 miliwn) dros bedair blynedd gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad / Yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn canolbwyntio ar newidiadau digidol, fideo a symudol ar gyfer amrywiol ieithoedd ledled y byd.
A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Luke yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol yn gweithio gyda’r sector elusennau a’r trydydd sector, rwy’n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd meithrin perthnasoedd cadarnhaol a pharhaol rhwng y cyllidwr grantiau a’r sawl sy’n eu derbyn.
Rwy hefyd wedi gweld drosof fy hun pa mor werthfawr y gall teithio fod er mwyn meithrin hunanhyder ac ehangu gorwelion – ac mae’n bleser mawr gen i gefnogi Taith wrth iddyn nhw leihau’r rhwystrau o ran teithio a gwneud cyfnewidiadau dysgu mor bellgyrhaeddol a chynhwysol â phosibl.”