Cysylltwch

Leah Doherty

Uwch Reolwr Prosiectau
Leah Doherty - Uwch Reolwr Prosiectau

Mae Leah yn monitro, yn cefnogi ac yn cynllunio amserlenni, adnoddau a chapasiti. Mae Leah yn ymwneud â’r rhan fwyaf o bortffolios gan gynnwys llywodraethu, Adnoddau Dynol, systemau TG, prosesau grantiau a chyfathrebu ar gyfer y rhaglen.

Rwy’n credu bod gan Taith y potensial i agor cyfleoedd i gynifer o bobl ledled Cymru a’r byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wybod rhagor am y sefydliadau a’r prosiectau a all gynnig y rhain a sut y gallwn eu helpu i wneud hyn. Mae gennym dîm ymroddedig ac angerddol iawn ac rwy wrth fy modd yn gweithio gyda nhw. Mae gen i lawer o brofiad o reoli rhaglenni grant yn y sectorau gwirfoddol ac ieuenctid yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â meddu ar gefndir mewn datblygu cynnwys systemau TG.

Aelodau staff eraill

Michele Dineen - Swyddog Ariannol

Michele Rogers

Swyddog Ariannol

Mae Michele yn edrych ar brosesau a gweithdrefnau Taith, ac yn cynorthwyo gyda gweinyddiaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ariannol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer y Rhaglen.

Mae’n deimlad cyffrous cael bod yn rhan o fenter newydd a chyfrannu at raglen Taith. Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes cyllideb yn bennaf yn y sector preifat, ond mae gen i flynyddoedd o brofiad yn y sector cyhoeddus hefyd. Fy swydd ddiwethaf oedd Swyddog Cyfrifon a Chyllid ar gyfer cwmni newydd. Rwy’n siŵr y bydd Taith yr un mor heriol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm.

Helen Gentle - Rheolwr Cyllid

Helen Gentle

Rheolwr Cyllid

Helen sy’n arwain y gwaith gweinyddu cyllidebol ac mae hefyd yn paratoi adroddiadau cyllidebol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer rhaglen Taith.

Rwy’n gyffrous fy mod yn chwarae rhan fach yn y tîm wrth greu cyfleoedd sy’n newid bywydau drwy raglen Taith. Rwy’n dod â 30 mlynedd o brofiad o weithio â chyllidebau mewn amrywiol ddiwydiannau (Banc Lloyds a’r BBC) gan gynnwys bod yn rhan o’r gwaith adrodd allanol ar gyfer prosiect grant blaenllaw Gwasanaeth y Byd y BBC W2020 (£289 miliwn) dros bedair blynedd gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad / Yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn canolbwyntio ar newidiadau digidol, fideo a symudol ar gyfer amrywiol ieithoedd ledled y byd.

Holly Coleman - Swyddog Grantiau

Holly Coleman

Swyddog Grantiau

A minnau’n Swyddog Grantiau, byddaf yn helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.

Mae gennyf 14 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg bellach a chefnogi’r rhai na fyddent fel arall wedi gallu manteisio ar y cyfleoedd a gawsant i ddysgu. Rwyf mor falch o allu defnyddio fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a’m hangerdd wrth weithio gyda thîm Taith er mwyn helpu’r rhai sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i gymryd rhan mewn rhaglen mor arloesol a chyffrous.

Bethan Williams - Arweinydd Tîm Gweinyddol

Bethan Williams

Arweinydd Tîm Gweinyddol

Rôl Bethan yw arwain gwaith gweinyddol y tîm drwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol y tîm Taith, yn ogystal ag ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i fodloni gofynion gweithredol a rhaglennol

Mae rhaglen Taith yn hynod fuddiol i Gymru ac mae’n gyffrous gwybod y byddaf yn rhan o dîm sy’n helpu i gynnig cyfleoedd i deithio’n rhyngwladol i bobl o bob math o gefndiroedd gwahanol. Mae hefyd yn braf cael gweithio gyda grŵp o bobl sy’n angerddol am ddarparu’r cyfleoedd hyn.

Matthew Hughes - Swyddog Grantiau

Matthew Hughes

Swyddog Grantiau

Swyddog Grantiau, yw Matthew ac mae’n helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.

Bûm yn gweithio ar Erasmus+ yn y gorffennol ac rydw i wedi clywed llawer o straeon ysbrydoledig am yr effaith y mae symudedd rhyngwladol wedi’i chael ar y rhai sydd wedi cymryd rhan. Rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o dîm Taith sy’n gweithio ar raglen mor gyffrous a fydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgwyr Cymru.

Elid Morris - Pennaeth Gweithrediadau

Dr. Elid Morris

Pennaeth Gweithrediadau

Elid sy’n gyfrifol am weinyddiaeth ddydd-i-ddydd a gweithrediadau ariannol rhaglen Taith. Elid sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno platfform o systemau, prosesau a gweithdrefnau i gynorthwyo Taith.

Mae’n rhaglen sydd â chyfoeth o gyfleoedd a phosibiliadau a allai newid bywydau nifer fawr o bobl. Mae cael bod yn rhan o ‘raglen gyntaf o’i math i Gymru’ yn gyffrous iawn ac yn rhoi boddhad i mi.

Rebecca Payne - Swyddog Prosiect ar Ysgolion

Rebecca Payne

Swyddog Prosiect ar Ysgolion

Yn ei rôl, mae Rebecca yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr.

Ar ôl gweithio ar Erasmus+ ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae gwaith rhyngwladol yn ei chael ar rhai sy’n cymryd rhan. Rwyf ar ben fy nigon mod wedi ymuno â rhaglen Taith ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr o Ysgolion ledled Cymru fel bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu elwa o’r rhaglen.

Susana Galván -Cyfarwyddwr Gweithredol

Susana Galván

Cyfarwyddwr Gweithredol

Susana sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am strategaeth, perfformiad a chyflwyniad llwyddiannus Rhaglen Taith. Mae Susana yn gweithio gydag uwch staff o Lywodraeth Cymru a sectorau targed y Rhaglen i hyrwyddo buddiannau a gwerthoedd Taith ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Roeddwn yn gyffrous iawn i ymuno â Taith ym mis Chwefror 2022 ac i arwain tîm mor wych a rhaglen mor unigryw ac arloesol i Gymru. Nod Taith yw creu cyfleoedd symudedd a chyfnewid bywydau, pellgyrhaeddol i bobl ledled Cymru, ar draws pob sector. Mae addysg a chyfnewidiadau rhyngwladol, a dealltwriaeth draws-ddiwylliannol yn feysydd yr wyf yn wirioneddol angerddol amdanynt, nid yn unig fel rhywun a elwodd ar brofiadau fel person ifanc, ond hefyd gan mai dyma’r meysydd gwaith yr wyf wedi ymroi i fy mywyd proffesiynol yn ei gyfanrwydd. Rwy’n falch ac yn freintiedig iawn i fod yn rhan o raglen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer Cymru, gyda Chymru a chan Gymru, ac o’r hyn y mae Taith mor uchelgeisiol a beiddgar yn anelu at ei gyflawni. Edrychaf ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu darparu i’w chyfranogwyr, y rhai sy’n mynd o Gymru i’r byd yn ogystal ag o’r byd i Gymru, ac i glywed popeth am eu “taith” unigryw gyda Taith!

Ellie Bevan - Pennaeth Polisi, Rhaglenni ac Ymgysylltu

Ellie Bevan

Pennaeth Polisi, Rhaglenni ac Ymgysylltu

Mae Ellie yn bennaeth ar y Tîm Rhaglenni, gan oruchwylio ymgysylltu â rhanddeiliaid, allgymorth a chymorth i sefydliadau sy’n ymgeisio a derbyn grantiau, a datblygiad polisi.

Rwy’n lwcus iawn fy mod wedi cael y cyfle i deithio a gweithio dramor mewn nifer o wledydd gwahanol. Mae’r profiadau hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fy mywyd a’m gyrfa ac felly rwy’n gyffrous iawn i weithio ar raglen sy’n galluogi pobl ifanc eraill i gael y cyfleoedd hyn. Mae gen i gefndir mewn ehangu mynediad, ac rwyf wedi gweld yr effaith enfawr y gall profiadau rhyngwladol ei chael ar fywydau pobl ifanc. Felly, rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod y rhaglen Taith yn hygyrch ac yn gynhwysol, ac yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc na fyddant fel arall yn cael y cyfle i deithio dramor.

Walter Brooks - Rheolwr Rhaglen AB, AHG, Addysg Oedolion ac Addysg Uwch

Walter Brooks

Rheolwr Rhaglen AB, AHG, Addysg Oedolion ac Addysg Uwch

Mae Walter yn arwain ar ymgysylltu’r rhaglen ar draws y sectorau addysg bellach, addysg alwedigaethol ac addysg oedolion.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at ddatblygu rhaglen arloesol sy’n cynnig cynifer o fanteision i Gymru mewn cymaint o ffyrdd. Roedd profi gwledydd a diwylliannau eraill wedi trawsnewid fy mywyd, ac rwy’n hoffi’r syniad ein bod yn rhoi’r cyfleoedd hynny sy’n newid bywydau i ystod eang o sectorau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru.

Claire Richardson - Swyddog Prosiect ar gyfer Addysg Oedolion ac Ysgolion

Claire Richardson

Swyddog Prosiect ar gyfer Addysg Oedolion ac Ysgolion

Yn ei rôl, mae Claire yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr. Mae Claire yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac yn cyfrannu at y nodau strategol hirdymor yn Rhaglen Taith.

 Dwi wrth fy modd fy mod yn rhan o’r tîm yma gan fod gen i brofiad personol o fanteision rhaglenni cyfnewid.  Dyma gyfle cyffrous i ddysgwyr yng Nghymru ddysgu gan eraill yn rhyngwladol yn ogystal a chyfle i ni groesawu ymwelwyr rhyngwladol ac arddangos Cymru ar ei gorau. Fy mwriad yw rhannu positifrwydd a chefnogi’r holl dîm ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r holl heriau sydd o’n blaenau.”

Delyth Johnson

Swyddog Gweinyddol dros dro

Mae Delyth yn darparu gwasanaeth gweinyddol i’r tîm trwy ymgysylltu a chwblhau ystod o dasgau arferol i fodloni gofynion gweithredol a gofynion y rhaglen.

Mae’n hyfryd i fod yn rhan o dîm Taith a chefnogi profiadau traws-ddiwylliannol i bobl o bob math o gefndiroedd ar draws Cymru. O fy mhrofiad o fyw yn yr Eidal rwy’n gwybod bod y profiad yn newid bywyd ac y mae’n braf i gynorthwyo’r gwaith yma.

Luke Evans - Cynorthwy-ydd Grantiau

Luke Evans

Cynorthwy-ydd Grantiau

A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Luke yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.

Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol yn gweithio gyda’r sector elusennau a’r trydydd sector, rwy’n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd meithrin perthnasoedd cadarnhaol a pharhaol rhwng y cyllidwr grantiau a’r sawl sy’n eu derbyn.

Rwy hefyd wedi gweld drosof fy hun pa mor werthfawr y gall teithio fod er mwyn meithrin hunanhyder ac ehangu gorwelion – ac mae’n bleser mawr gen i gefnogi Taith wrth iddyn nhw leihau’r rhwystrau o ran teithio a gwneud cyfnewidiadau dysgu mor bellgyrhaeddol a chynhwysol â phosibl.”

Sion James - Swyddog Prosiect, FE a VET, Ieuenctid

Siôn James

Swyddog Prosiect, FE a VET, Ieuenctid

Mae Siôn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, a’r sectorau Ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o Taith, yn ogystal â chefnogi ymgeiswyr a buddiolwyr drwy bob cam o gylch bywyd eu prosiect.

Mae Taith yn gyfle gwych i ddysgwyr ac ymarferwyr addysg yng Nghymru gynyddu eu dimensiwn rhyngwladol. Ar ôl cymryd rhan mewn rhaglenni addysg rhyngwladol eraill a gweithio arnynt yn y gorffennol, rwy’n gwybod sut y gall y profiadau hyn newid bywydau, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu cynnig i Gymru a’r byd ehangach.

Chloe Clancy - Cynorthwy-ydd Grantiau

Chloe Clancy

Cynorthwy-ydd Grantiau

A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Chloe yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.

Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm Taith gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall cyfnewid rhyngwladol ei wneud i rywun. Mae gallu gweithio mewn tîm i helpu i wneud hyn yn bosibl i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru yn bleser pur.