Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchA hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Luke yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol yn gweithio gyda’r sector elusennau a’r trydydd sector, rwy’n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd meithrin perthnasoedd cadarnhaol a pharhaol rhwng y cyllidwr grantiau a’r sawl sy’n eu derbyn.
Rwy hefyd wedi gweld drosof fy hun pa mor werthfawr y gall teithio fod er mwyn meithrin hunanhyder ac ehangu gorwelion – ac mae’n bleser mawr gen i gefnogi Taith wrth iddyn nhw leihau’r rhwystrau o ran teithio a gwneud cyfnewidiadau dysgu mor bellgyrhaeddol a chynhwysol â phosibl.”
Mae Ellie yn bennaeth ar y Tîm Rhaglenni, gan oruchwylio ymgysylltu â rhanddeiliaid, allgymorth a chymorth i sefydliadau sy’n ymgeisio a derbyn grantiau, a datblygiad polisi.
Rwy’n lwcus iawn fy mod wedi cael y cyfle i deithio a gweithio dramor mewn nifer o wledydd gwahanol. Mae’r profiadau hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fy mywyd a’m gyrfa ac felly rwy’n gyffrous iawn i weithio ar raglen sy’n galluogi pobl ifanc eraill i gael y cyfleoedd hyn. Mae gen i gefndir mewn ehangu mynediad, ac rwyf wedi gweld yr effaith enfawr y gall profiadau rhyngwladol ei chael ar fywydau pobl ifanc. Felly, rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod y rhaglen Taith yn hygyrch ac yn gynhwysol, ac yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc na fyddant fel arall yn cael y cyfle i deithio dramor.
Mae Guy yn gweithio yn rhan o’r tîm darparu gwasanaethau proffesiynol. Maen nhw’n darparu gwasanaeth TG effeithlon ac effeithiol o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i holl dîm Taith.
‘Roedd yn gyfle gwych i mi ymuno â Taith ym mis Mai. Maen nhw’n dîm mor hyfryd i weithio gyda nhw. Mae’r rhaglen hon yn unigryw, a’r cyntaf o’i math yng Nghymru. Nod y rhaglen yw rhoi profiadau i bobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ledled y byd, a newid eu bywydau. Mae’n fraint bod yn rhan o’r rhaglen gyffrous, werth chweil hon.’
Mae Michele yn edrych ar brosesau a gweithdrefnau Taith, ac yn cynorthwyo gyda gweinyddiaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ariannol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer y Rhaglen.
Mae’n deimlad cyffrous cael bod yn rhan o fenter newydd a chyfrannu at raglen Taith. Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes cyllideb yn bennaf yn y sector preifat, ond mae gen i flynyddoedd o brofiad yn y sector cyhoeddus hefyd. Fy swydd ddiwethaf oedd Swyddog Cyfrifon a Chyllid ar gyfer cwmni newydd. Rwy’n siŵr y bydd Taith yr un mor heriol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm.