Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchMae Michele yn darparu gwasanaeth gweinyddol i’r tîm trwy ymgysylltu a chwblhau ystod o dasgau arferol i fodloni gofynion gweithredol a gofynion y rhaglen.
Ar ôl astudio a dysgu Cymdeithaseg, rwy’n gwerthfawrogi ac yn deall pwysigrwydd profiadau trawsddiwylliannol a sut maent yn cyfoethogi bywydau. Rwy’n arbennig o gyffrous i fod yn rhan o raglen o’r fath sy’n ymestyn y cyfle hwn sy’n newid bywydau i’r rhai a fyddai fel arfer heb fynediad at brofiad o’r fath.
Yn ei rôl, mae Claire yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr. Mae Claire yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac yn cyfrannu at y nodau strategol hirdymor yn Rhaglen Taith.
Dwi wrth fy modd fy mod yn rhan o’r tîm yma gan fod gen i brofiad personol o fanteision rhaglenni cyfnewid. Dyma gyfle cyffrous i ddysgwyr yng Nghymru ddysgu gan eraill yn rhyngwladol yn ogystal a chyfle i ni groesawu ymwelwyr rhyngwladol ac arddangos Cymru ar ei gorau. Fy mwriad yw rhannu positifrwydd a chefnogi’r holl dîm ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r holl heriau sydd o’n blaenau.”
Mae Walter yn arwain ar ymgysylltu’r rhaglen ar draws y sectorau addysg bellach, addysg alwedigaethol ac addysg oedolion.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at ddatblygu rhaglen arloesol sy’n cynnig cynifer o fanteision i Gymru mewn cymaint o ffyrdd. Roedd profi gwledydd a diwylliannau eraill wedi trawsnewid fy mywyd, ac rwy’n hoffi’r syniad ein bod yn rhoi’r cyfleoedd hynny sy’n newid bywydau i ystod eang o sectorau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru.
Susana sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am strategaeth, perfformiad a chyflwyniad llwyddiannus Rhaglen Taith. Mae Susana yn gweithio gydag uwch staff o Lywodraeth Cymru a sectorau targed y Rhaglen i hyrwyddo buddiannau a gwerthoedd Taith ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Roeddwn yn gyffrous iawn i ymuno â Taith ym mis Chwefror 2022 ac i arwain tîm mor wych a rhaglen mor unigryw ac arloesol i Gymru. Nod Taith yw creu cyfleoedd symudedd a chyfnewid bywydau, pellgyrhaeddol i bobl ledled Cymru, ar draws pob sector. Mae addysg a chyfnewidiadau rhyngwladol, a dealltwriaeth draws-ddiwylliannol yn feysydd yr wyf yn wirioneddol angerddol amdanynt, nid yn unig fel rhywun a elwodd ar brofiadau fel person ifanc, ond hefyd gan mai dyma’r meysydd gwaith yr wyf wedi ymroi i fy mywyd proffesiynol yn ei gyfanrwydd. Rwy’n falch ac yn freintiedig iawn i fod yn rhan o raglen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer Cymru, gyda Chymru a chan Gymru, ac o’r hyn y mae Taith mor uchelgeisiol a beiddgar yn anelu at ei gyflawni. Edrychaf ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu darparu i’w chyfranogwyr, y rhai sy’n mynd o Gymru i’r byd yn ogystal ag o’r byd i Gymru, ac i glywed popeth am eu “taith” unigryw gyda Taith!