Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd
CysylltwchYn ei rôl, mae Rebecca yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr.
Ar ôl gweithio ar Erasmus+ ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae gwaith rhyngwladol yn ei chael ar rhai sy’n cymryd rhan. Rwyf ar ben fy nigon mod wedi ymuno â rhaglen Taith ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr o Ysgolion ledled Cymru fel bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu elwa o’r rhaglen.
Elid sy’n gyfrifol am weinyddiaeth ddydd-i-ddydd a gweithrediadau ariannol rhaglen Taith. Elid sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno platfform o systemau, prosesau a gweithdrefnau i gynorthwyo Taith.
Mae’n rhaglen sydd â chyfoeth o gyfleoedd a phosibiliadau a allai newid bywydau nifer fawr o bobl. Mae cael bod yn rhan o ‘raglen gyntaf o’i math i Gymru’ yn gyffrous iawn ac yn rhoi boddhad i mi.
Rôl Claire yw cefnogi Taith trwy ddatblygu a gweithredu strategaeth farchnata a chyfathrebu sy’n hyrwyddo’r rhaglen i unigolion a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt, gan godi ymwybyddiaeth ac annog ymgysylltiad gan ein cynulleidfa darged.
Mae hi’n gyfrifol am sefydlu a datblygu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol, darparu ymgyrchoedd marchnata deniadol ac effeithiol, a rheoli gwefan y rhaglen.
“Rwyf wrth fy modd i allu arddangos y mathau o brosiectau y mae Taith yn eu hariannu a’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen yn ei chael ar ddysgwyr yng Nghymru. Mae rhannu straeon ein derbynwyr grant ac arddangos sut y gall cymryd rhan mewn cyfnewid rhyngwladol fod yn brofiad sy’n newid bywydau’n gwirioneddol, yn enwedig i rai pobl sydd efallai erioed wedi cael y math hwn o gyfle o’r blaen, yn un o’r agweddau gwych o fod yn rhan o dîm Taith.”
Mae Michele yn edrych ar brosesau a gweithdrefnau Taith, ac yn cynorthwyo gyda gweinyddiaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ariannol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer y Rhaglen.
Mae’n deimlad cyffrous cael bod yn rhan o fenter newydd a chyfrannu at raglen Taith. Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes cyllideb yn bennaf yn y sector preifat, ond mae gen i flynyddoedd o brofiad yn y sector cyhoeddus hefyd. Fy swydd ddiwethaf oedd Swyddog Cyfrifon a Chyllid ar gyfer cwmni newydd. Rwy’n siŵr y bydd Taith yr un mor heriol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm.
Mae Ellie yn bennaeth ar y Tîm Rhaglenni, gan oruchwylio ymgysylltu â rhanddeiliaid, allgymorth a chymorth i sefydliadau sy’n ymgeisio a derbyn grantiau, a datblygiad polisi.
Rwy’n lwcus iawn fy mod wedi cael y cyfle i deithio a gweithio dramor mewn nifer o wledydd gwahanol. Mae’r profiadau hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fy mywyd a’m gyrfa ac felly rwy’n gyffrous iawn i weithio ar raglen sy’n galluogi pobl ifanc eraill i gael y cyfleoedd hyn. Mae gen i gefndir mewn ehangu mynediad, ac rwyf wedi gweld yr effaith enfawr y gall profiadau rhyngwladol ei chael ar fywydau pobl ifanc. Felly, rwy’n arbennig o awyddus i sicrhau bod y rhaglen Taith yn hygyrch ac yn gynhwysol, ac yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc na fyddant fel arall yn cael y cyfle i deithio dramor.
Mae Walter yn arwain ar ymgysylltu’r rhaglen ar draws y sectorau addysg bellach, addysg alwedigaethol ac addysg oedolion.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at ddatblygu rhaglen arloesol sy’n cynnig cynifer o fanteision i Gymru mewn cymaint o ffyrdd. Roedd profi gwledydd a diwylliannau eraill wedi trawsnewid fy mywyd, ac rwy’n hoffi’r syniad ein bod yn rhoi’r cyfleoedd hynny sy’n newid bywydau i ystod eang o sectorau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru.
Mae Delyth yn darparu gwasanaeth gweinyddol i’r tîm trwy ymgysylltu a chwblhau ystod o dasgau arferol i fodloni gofynion gweithredol a gofynion y rhaglen.
Mae’n hyfryd i fod yn rhan o dîm Taith a chefnogi profiadau traws-ddiwylliannol i bobl o bob math o gefndiroedd ar draws Cymru. O fy mhrofiad o fyw yn yr Eidal rwy’n gwybod bod y profiad yn newid bywyd ac y mae’n braf i gynorthwyo’r gwaith yma.
Helen sy’n arwain y gwaith gweinyddu cyllidebol ac mae hefyd yn paratoi adroddiadau cyllidebol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer rhaglen Taith.
Rwy’n gyffrous fy mod yn chwarae rhan fach yn y tîm wrth greu cyfleoedd sy’n newid bywydau drwy raglen Taith. Rwy’n dod â 30 mlynedd o brofiad o weithio â chyllidebau mewn amrywiol ddiwydiannau (Banc Lloyds a’r BBC) gan gynnwys bod yn rhan o’r gwaith adrodd allanol ar gyfer prosiect grant blaenllaw Gwasanaeth y Byd y BBC W2020 (£289 miliwn) dros bedair blynedd gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad / Yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn canolbwyntio ar newidiadau digidol, fideo a symudol ar gyfer amrywiol ieithoedd ledled y byd.
A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Luke yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol yn gweithio gyda’r sector elusennau a’r trydydd sector, rwy’n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd meithrin perthnasoedd cadarnhaol a pharhaol rhwng y cyllidwr grantiau a’r sawl sy’n eu derbyn.
Rwy hefyd wedi gweld drosof fy hun pa mor werthfawr y gall teithio fod er mwyn meithrin hunanhyder ac ehangu gorwelion – ac mae’n bleser mawr gen i gefnogi Taith wrth iddyn nhw leihau’r rhwystrau o ran teithio a gwneud cyfnewidiadau dysgu mor bellgyrhaeddol a chynhwysol â phosibl.”
Swyddog Grantiau, yw Matthew ac mae’n helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.
asd@asd.comBûm yn gweithio ar Erasmus+ yn y gorffennol ac rydw i wedi clywed llawer o straeon ysbrydoledig am yr effaith y mae symudedd rhyngwladol wedi’i chael ar y rhai sydd wedi cymryd rhan. Rwy’n ddiolchgar i fod yn rhan o dîm Taith sy’n gweithio ar raglen mor gyffrous a fydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddysgwyr Cymru.
A minnau’n Swyddog Grantiau, byddaf yn helpu tîm Taith i reoli grantiau, yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gwneud cais i’r rhaglen ac yn cymryd rhan ynddi, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o reoli prosiectau o ddydd i ddydd.
Mae gennyf 14 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg bellach a chefnogi’r rhai na fyddent fel arall wedi gallu manteisio ar y cyfleoedd a gawsant i ddysgu. Rwyf mor falch o allu defnyddio fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a’m hangerdd wrth weithio gyda thîm Taith er mwyn helpu’r rhai sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i gymryd rhan mewn rhaglen mor arloesol a chyffrous.
Mae Leah yn monitro, yn cefnogi ac yn cynllunio amserlenni, adnoddau a chapasiti. Mae Leah yn ymwneud â’r rhan fwyaf o bortffolios gan gynnwys llywodraethu, Adnoddau Dynol, systemau TG, prosesau grantiau a chyfathrebu ar gyfer y rhaglen.
Rwy’n credu bod gan Taith y potensial i agor cyfleoedd i gynifer o bobl ledled Cymru a’r byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wybod rhagor am y sefydliadau a’r prosiectau a all gynnig y rhain a sut y gallwn eu helpu i wneud hyn. Mae gennym dîm ymroddedig ac angerddol iawn ac rwy wrth fy modd yn gweithio gyda nhw. Mae gen i lawer o brofiad o reoli rhaglenni grant yn y sectorau gwirfoddol ac ieuenctid yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ogystal â meddu ar gefndir mewn datblygu cynnwys systemau TG.
Rôl Bethan yw arwain gwaith gweinyddol y tîm drwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol y tîm Taith, yn ogystal ag ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i fodloni gofynion gweithredol a rhaglennol
Mae rhaglen Taith yn hynod fuddiol i Gymru ac mae’n gyffrous gwybod y byddaf yn rhan o dîm sy’n helpu i gynnig cyfleoedd i deithio’n rhyngwladol i bobl o bob math o gefndiroedd gwahanol. Mae hefyd yn braf cael gweithio gyda grŵp o bobl sy’n angerddol am ddarparu’r cyfleoedd hyn.
Susana sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am strategaeth, perfformiad a chyflwyniad llwyddiannus Rhaglen Taith. Mae Susana yn gweithio gydag uwch staff o Lywodraeth Cymru a sectorau targed y Rhaglen i hyrwyddo buddiannau a gwerthoedd Taith ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Roeddwn yn gyffrous iawn i ymuno â Taith ym mis Chwefror 2022 ac i arwain tîm mor wych a rhaglen mor unigryw ac arloesol i Gymru. Nod Taith yw creu cyfleoedd symudedd a chyfnewid bywydau, pellgyrhaeddol i bobl ledled Cymru, ar draws pob sector. Mae addysg a chyfnewidiadau rhyngwladol, a dealltwriaeth draws-ddiwylliannol yn feysydd yr wyf yn wirioneddol angerddol amdanynt, nid yn unig fel rhywun a elwodd ar brofiadau fel person ifanc, ond hefyd gan mai dyma’r meysydd gwaith yr wyf wedi ymroi i fy mywyd proffesiynol yn ei gyfanrwydd. Rwy’n falch ac yn freintiedig iawn i fod yn rhan o raglen sydd wedi’i chynllunio ar gyfer Cymru, gyda Chymru a chan Gymru, ac o’r hyn y mae Taith mor uchelgeisiol a beiddgar yn anelu at ei gyflawni. Edrychaf ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu darparu i’w chyfranogwyr, y rhai sy’n mynd o Gymru i’r byd yn ogystal ag o’r byd i Gymru, ac i glywed popeth am eu “taith” unigryw gyda Taith!
Mae Siôn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, a’r sectorau Ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o Taith, yn ogystal â chefnogi ymgeiswyr a buddiolwyr drwy bob cam o gylch bywyd eu prosiect.
Mae Taith yn gyfle gwych i ddysgwyr ac ymarferwyr addysg yng Nghymru gynyddu eu dimensiwn rhyngwladol. Ar ôl cymryd rhan mewn rhaglenni addysg rhyngwladol eraill a gweithio arnynt yn y gorffennol, rwy’n gwybod sut y gall y profiadau hyn newid bywydau, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu cynnig i Gymru a’r byd ehangach.
A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Chloe yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm Taith gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall cyfnewid rhyngwladol ei wneud i rywun. Mae gallu gweithio mewn tîm i helpu i wneud hyn yn bosibl i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru yn bleser pur.