Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchMae Siôn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, a’r sectorau Ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o Taith, yn ogystal â chefnogi ymgeiswyr a buddiolwyr drwy bob cam o gylch bywyd eu prosiect.
Mae Taith yn gyfle gwych i ddysgwyr ac ymarferwyr addysg yng Nghymru gynyddu eu dimensiwn rhyngwladol. Ar ôl cymryd rhan mewn rhaglenni addysg rhyngwladol eraill a gweithio arnynt yn y gorffennol, rwy’n gwybod sut y gall y profiadau hyn newid bywydau, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y manteision y bydd Taith yn eu cynnig i Gymru a’r byd ehangach.
Mae Michele yn darparu gwasanaeth gweinyddol i’r tîm trwy ymgysylltu a chwblhau ystod o dasgau arferol i fodloni gofynion gweithredol a gofynion y rhaglen.
Ar ôl astudio a dysgu Cymdeithaseg, rwy’n gwerthfawrogi ac yn deall pwysigrwydd profiadau trawsddiwylliannol a sut maent yn cyfoethogi bywydau. Rwy’n arbennig o gyffrous i fod yn rhan o raglen o’r fath sy’n ymestyn y cyfle hwn sy’n newid bywydau i’r rhai a fyddai fel arfer heb fynediad at brofiad o’r fath.
Mae Michele yn edrych ar brosesau a gweithdrefnau Taith, ac yn cynorthwyo gyda gweinyddiaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ariannol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer y Rhaglen.
Mae’n deimlad cyffrous cael bod yn rhan o fenter newydd a chyfrannu at raglen Taith. Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes cyllideb yn bennaf yn y sector preifat, ond mae gen i flynyddoedd o brofiad yn y sector cyhoeddus hefyd. Fy swydd ddiwethaf oedd Swyddog Cyfrifon a Chyllid ar gyfer cwmni newydd. Rwy’n siŵr y bydd Taith yr un mor heriol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm.
Mae Guy yn gweithio yn rhan o’r tîm darparu gwasanaethau proffesiynol. Maen nhw’n darparu gwasanaeth TG effeithlon ac effeithiol o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i holl dîm Taith.
‘Roedd yn gyfle gwych i mi ymuno â Taith ym mis Mai. Maen nhw’n dîm mor hyfryd i weithio gyda nhw. Mae’r rhaglen hon yn unigryw, a’r cyntaf o’i math yng Nghymru. Nod y rhaglen yw rhoi profiadau i bobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ledled y byd, a newid eu bywydau. Mae’n fraint bod yn rhan o’r rhaglen gyffrous, werth chweil hon.’