Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchMae Walter yn arwain ar ymgysylltu’r rhaglen ar draws y sectorau addysg bellach, addysg alwedigaethol ac addysg oedolion.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at ddatblygu rhaglen arloesol sy’n cynnig cynifer o fanteision i Gymru mewn cymaint o ffyrdd. Roedd profi gwledydd a diwylliannau eraill wedi trawsnewid fy mywyd, ac rwy’n hoffi’r syniad ein bod yn rhoi’r cyfleoedd hynny sy’n newid bywydau i ystod eang o sectorau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru.
A hithau’n gynorthwy-ydd grantiau, mae Chloe yn rhoi cefnogaeth weinyddol i’r tîm grantiau a chyllid ac yn cysylltu â chyfranogwyr ynglŷn â ffrydiau ariannu Taith.
Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm Taith gan fy mod wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y gall cyfnewid rhyngwladol ei wneud i rywun. Mae gallu gweithio mewn tîm i helpu i wneud hyn yn bosibl i bobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru yn bleser pur.
Yn ei rôl, mae Claire yn ymgysylltu â sector yr ysgolion a’i gefnogi gyda phob agwedd ar raglen Taith, gan godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar draws y sector yng Nghymru a rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a buddiolwyr. Mae Claire yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac yn cyfrannu at y nodau strategol hirdymor yn Rhaglen Taith.
Dwi wrth fy modd fy mod yn rhan o’r tîm yma gan fod gen i brofiad personol o fanteision rhaglenni cyfnewid. Dyma gyfle cyffrous i ddysgwyr yng Nghymru ddysgu gan eraill yn rhyngwladol yn ogystal a chyfle i ni groesawu ymwelwyr rhyngwladol ac arddangos Cymru ar ei gorau. Fy mwriad yw rhannu positifrwydd a chefnogi’r holl dîm ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r holl heriau sydd o’n blaenau.”
Helen sy’n arwain y gwaith gweinyddu cyllidebol ac mae hefyd yn paratoi adroddiadau cyllidebol, yn monitro cyllidebau ac yn sicrhau bod y cyfrifon yn gyson ar gyfer rhaglen Taith.
Rwy’n gyffrous fy mod yn chwarae rhan fach yn y tîm wrth greu cyfleoedd sy’n newid bywydau drwy raglen Taith. Rwy’n dod â 30 mlynedd o brofiad o weithio â chyllidebau mewn amrywiol ddiwydiannau (Banc Lloyds a’r BBC) gan gynnwys bod yn rhan o’r gwaith adrodd allanol ar gyfer prosiect grant blaenllaw Gwasanaeth y Byd y BBC W2020 (£289 miliwn) dros bedair blynedd gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad / Yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn canolbwyntio ar newidiadau digidol, fideo a symudol ar gyfer amrywiol ieithoedd ledled y byd.