Cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen gais, mae’n bwysig adolygu’r canllawiau a’r adnoddau allweddol i sicrhau eich bod wedi paratoi’n llawn. Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i benderfynu a yw Llwybr 1 yn addas ar gyfer eich sefydliad a’ch prosiect, deall beth sy’n ofynnol ym mhob cam, a gwybod ble i fynd os oes angen cymorth arnoch.
Darllenwch Ganllaw Llwybr 1 yn drylwyr, a gwnewch yn siŵr mai Llwybr 1 yw’r dewis cywir ar gyfer eich sefydliad a’ch prosiect arfaethedig. Peidiwch ag anghofio bod canllawiau gwahanol ar gyfer gwahanol sectorau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllaw sy’n berthnasol i’ch sector
Darllenwch y canllawiau cymhwysedd ar gyfer sefydliadau a gwnewch nodyn o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i lenwi’r ffurflen gymhwysedd
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud cais i’r sector cywir. Mae’r gwahanol reolau cymhwysedd ar gyfer pob sector ar gael yn adran 1.2 Canllaw Llwybr 1 eich sector
Darllenwch drwy ddogfennau cymorth cais Llwybr 1 – mae hon yn cynnwys yr holl gwestiynau ansoddol bydd angen i chi eu hateb fel rhan o’r cais
Ymunwch â’n gweminarau cymorth a/neu gwyliwch y recordiadau ar ein gwefan
Edrychwch ar brosiectau Llwybr 1 eraill rydyn ni wedi’u hariannu ar ein tudalen prosiectau wedi’u cynllunio
Cysylltwch â’r tîm os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ymholiadau@taith.cymru.
Sylwch efallai y bydd angen mewnbwn gan unigolion eraill yn eich sefydliad i gwblhau’r broses ymgeisio felly gwnewch yn sicr eich bod chi’n neilltuo digon o amser ar gyfer hyn.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os bydd unrhyw beth yn aneglur, ebostiwch ymholiadau@taith.cymru.
Mae dwy ffurflen a chyfrifydd grant i'w cwblhau yn y broses ymgeisio.
Isod mae canllaw cam wrth gam defnyddiol ar gyfer y broses ymgeisio:
Cwblhewch y camau ‘Cyn i chi ddechrau’ uchod
Dewch o hyd iddo yn adran cyllideb y prosiect o’r ffurflen gais. Cadwch ef a’i gwblhau i gyfrifo cost eich prosiect cyn i chi ddechrau ateb cwestiynau’r ffurflen gais.
Agorwch a chadwch y ffurflen gais a’r ffurflen gymhwysedd. Mae arbed yn cynhyrchu e-byst gyda chodau a dolenni unigryw fel y gallwch ddychwelyd i bob ffurflen yn ddiweddarach.
Gallwch weithio ar y ffurflen gais, y ffurflen gymhwysedd a’r cyfrifydd grant ar yr un pryd, ond:
Atodwch y ffeil wedi’i chwblhau i’ch ffurflen gais.
Ychwanegwch eich rhif cyfeirnod at y ffurflen gais.
Dyddiad cau: 12yp, 18 fed o Fawrth 2026
Cysylltwch â thîm Taith ar ymholiadau@taith.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r camau. .
Eisoes wedi dechrau cais?
Os ydych chi eisoes wedi dechrau’ch cais Llwybr 1, ewch yn ôl ato drwy ddefnyddio’r ddolen unigryw a anfonwyd atoch drwy e-bost. Bydd y ddolen e-bost yn dod oddi wrth noreply@formresponse.com yn enw Prifysgol Caerdydd. Os ydych chi’n chwilio yn ôl llinell bwnc, chwiliwch am ‘Taith: Dolen cais / application link’. Os dych chi ddim yn gallu dod o hyd i’ch e-bost gwreiddiol, cysylltwch â ni yn ymholiadau@taith.cymru.