Bydd yr alwad am geisiadau Llwybr 2 Taith yn agor ar 5ed Hydref 2023! Darganfod mwy
CysylltwchMae cyfleoedd ariannu Taith ar gael i ddarparwyr dysgu o bob math.
Mae Taith yn agored i sefydliadau Cymreig yn y sectorau canlynol:
Sylwer: Mae Taith ar agor ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau a reoleiddir neu sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru yn unig, oni nodir yn wahanol yng nghanllawiau’r rhaglen.
Nod Taith yw cefnogi symudiadau rhyngwladol unigolion neu grwpiau o ddysgwyr, myfyrwyr, pobl ifanc a staff darparwyr addysg a sefydliadau ieuenctid Cymru. Ni all unigolion wneud cais yn uniongyrchol i’r rhaglen a dylent gysylltu â’u darparwr addysg neu sefydliad perthnasol yn y lle cyntaf.
Fel cenedl agored a chroesawgar, mae Cymru’n gwahodd sefydliadau o bob rhan o’r byd i chwilio am gyfleoedd i gydweithio drwy Taith. Mae gan sefydliadau Cymreig sy’n gwneud cais i Taith yr opsiwn i ofyn am gyllid i gefnogi symudedd mewnol cyfranogwyr o sefydliadau partner cymwys ledled y byd i ddysgu, hyfforddi, astudio a gwirfoddoli yng Nghymru.
Ni all sefydliadau a chyfranogwyr unigol y tu allan i Gymru wneud cais yn uniongyrchol i Taith. Dylai sefydliadau rhyngwladol sy’n gymwys i gydweithio trwy Taith fel sefydliadau anfon gysylltu â’r sefydliad Cymreig y maent yn dymuno partneru ag ef yn y lle cyntaf.