Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr a staff o sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigeithol yng Nghymru i ddysgu, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio dros y byd i gyd a chymryd rhan mewn profiadau rhyngwladol sy’n newid bywydau, y dangoswyd eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd personol pobl yn eu bywydau, eu dysgu a’u rhagolygon cyflogadwyedd.
Pam cymryd rhan?
Gall cynnig profiadau rhyngwladol i ddysgwyr newid eu bywydau. Mae rhaglenni symudedd Taith yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu’r sgiliau bywyd a’r galluoedd allweddol mae eu hangen iddynt ffynnu, wrth gynyddu hyder a chynyddu uchelgeisiau i ddysgwyr.
Mae Taith yn rhaglen gynhwysol sy’n cynnig cymorth ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd dan anfantais ac anghenion dysgu ychwanegol, gan alluogi’r rhai hynny â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau trawsnewidiol. Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau cymwys i unigolion a grwpiau, mae cyllid ar gael i ddysgwyr o bob math.
Mae Taith yn cynnig cyfle cyffrous i staff Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) yng Nghymru ryngwladoli eu hyfforddiant a’u datblygiad proffesiynol. Gall cyfranogwyr ddefnyddio eu cyllid i gyfnewid arfer rhyngwladol gorau yn eu meysydd a gwella safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â sefydlu neu ddatblygu cysylltiadau a chydweithio â phartneriaid rhyngwladol i feithrin perthnasoedd parhaus. Mae hyn yn cynnig ffyrdd newydd i staff ddiwallu anghenion sefydliadol a mynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth lleol a chenedlaethol, gan gynnwys egwyddorion Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?
Addysg Bellach:
Gall unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat a reoleiddir neu sy’n gofrestredig yng Nghymru, ac sy’n weithredol yno, ym maes addysg bellach, ac sy’n cynnig cyrsiau o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru gyflwyno cais am gyllid Taith. Rydym ni hefyd yn derbyn ceisiadau gan gyrff cydlynu cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n weithredol yng Nghymru ac sy’n goruchwylio darpariaeth addysg bellach.
Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol:
Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat a reoleiddir neu sy’n gofrestredig yng Nghymru, ac sy’n weithredol yno, sy’n weithredol ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau achrededig.