Cyfleoedd Ariannu
Symudedd cyfranogwyr
Mae’r cyllid ar gyfer Llwybr 1 yn cefnogi cyfleoedd dysgu rhyngwladol i unigolion neu grwpiau o unigolion, gan roi cyfleoedd iddyn nhw gael profiadau dysgu, gwaith neu wirfoddoli tymor byr a thymor hir. Mae Llwybr 1 yn agored i sefydliadau ar draws holl sectorau Taith – Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Uwch.
- Statws
- Ar gau
Bydd yr alwad hon yn agor nesaf ym mis Ionawr 2025. Cofrestrwch i ein cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni enquiries@taith.wales
Llwybr 1Partneriaethau a Chydweithio Strategol
Mae’r cyllid hwn yn cefnogi arloesedd addysgol, a datblygiad prosiectau cydweithredol rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Arweinir y prosiectau hyn gan sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Llwybr 2 yn agored i sefydliadau yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion ac Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
- Statws
- Ar agor
- Dyddiad cau
- 21/11/2024