Cysylltwch

Addysg Uwch

Cyfleoedd Ariannu
Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i staff a myfyrwyr prifysgolion Cymru gymryd rhan mewn profiadau symudedd dysgu trawsnewidiol.

Dangoswyd bod dysgu a rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau addysgol, cyflogadwyedd yn y dyfodol a chydweithio ymchwil, ac mae’r manteision hyn hyd yn oed yn amlycach ymhlith cyfranogwyr o gefndiroedd ehangu cyfranogiad.
Bydd Taith yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o symudedd i’r sector addysg uwch, ar draws yr holl ddisgyblaethau a chydag amrywiaeth eang o sectorau, wrth hyrwyddo Cymru, y Gymraeg a diwylliant Cymreig ym mhedwar ban byd.

Four people looking at a piece of equipment. Two of the people are wearing face masks.

Pam cyflwyno cais?

Gall ymgymryd â rhaglen symudedd helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, proffesiynol a rhyngddiwyliannol, gan wella sgiliau trosglwyddadwy a chynnig profiadau bywyd go iawn y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr; mae myfyrwyr Addysg Uwch sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni symudedd rhyngwladol yn fwy tebygol o ganfod cyflogaeth blwyddyn ar ôl graddio.

Mae Taith yn rhaglen gynhwysol sy’n cynnig cymorth ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd dan anfantais ac anghenion dysgu ychwanegol, gan alluogi’r rhai hynny â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau trawsnewidiol.

Mae Taith yn cynnig cyfle cyffrous i staff Addysg Uwch yng Nghymru ryngwladoli eu hyfforddiant a’u datblygiad proffesiynol. Gall cyfranogwyr ddefnyddio eu cyllid i gyfnewid arfer rhyngwladol gorau yn eu meysydd a gwella safonau addysg a hyfforddiant ym maes Addysg Uwch Cymru, yn ogystal â sefydlu neu ddatblygu cysylltiadau a chydweithio â phartneriaid rhyngwladol i feithrin perthnasoedd parhaus.

Gall ymchwilwyr ddatblygu sgiliau a phrofiad gwerthfawr drwy wneud lleoliadau a chydweithio â phartneriaid dramor. Mae Taith yn darparu cyfleoedd rhannu sgiliau a syniadau’n rhyngwladol, wrth hefyd helpu i ddatblygu datblygiad proffesiynol ymchwilwyr a’u perfformiad academaidd. Gall cyfranogwyr ddefnyddio cyllid i gyfnewid arfer rhyngwladol gorau yn eu meysydd a gwella safonau ymchwil yng Nghymru a sefydlu neu ddatblygu cysylltiadau a chydweithio â phartneriaid rhyngwladol i feithrin perthnasoedd ymchwil gwerthfawr.

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Gall unrhyw sefydliad addysg uwch (SAU) yng Nghymru neu a gyllidir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gyflwyno cais. Rydym ni hefyd yn derbyn ceisiadau gan ddarparwyr addysg uwch sy’n weithredol yng Nghymru, y mae eu cyrsiau wedi’u nodi’n benodol at ddibenion bod yn gymwys am gymorth myfyrwyr.

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Gall yr holl fyfyrwyr sy’n gofrestredig ym maes Addysg Uwch ac sy’n gofrestredig ar raglen israddedig neu ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd gydnabyddedig gymryd rhan, yn ogystal â’r holl fyfyrwyr sy’n gofrestredig ar Radd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu gwrs Tystysgrif Addysg Uwch. Ar gyfer rhaglenni symudedd profiad gwaith, gall graddedigion addysg uwch diweddar hefyd gymryd rhan o fewn blwyddyn o raddio.

Gall cyfranogwyr cymwys ar gyfer gweithgareddau Ymchwil Addysg Uwch fod yn ymchwilwyr sydd wedi’u cyflogi gan y sefydliad sy’n eu hanfon ar gontract academaidd, yn fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fyfyrwyr PhD wedi’u cofrestru yn y sefydliad sy’n eu hanfon, staff sy’n gyflogedig gan y sefydliad sy’n gwneud cais sy’n cefnogi gweithgareddau ymchwil, megis technegwyr, a staff gwasanaethau proffesiynol penodol ymchwil eraill sydd wedi’u cyflogi gan y sefydliad sy’n cyflwyno cais.

Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol â galwad cyllid Llwybr 1 Taith (2024) ar gyfer y sector AU (Addysg ac Ymchwil):
Canllaw Llwybr 1 2024 - Addysg Uwch
Mae’r Canllaw Rhaglen Taith yn rhoi rhagor o wybodaeth i sefydliadau ac unigolion am Taith, sut mae’r rhaglen yn gweithio a phwy sy’n gymwys i wneud cais am, a chael, cyllid:
Canllaw Rhaglen Taith 2024
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am Taith a’n cyfleoedd ariannu, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm mewn cysylltiad.
Cysylltwch â ni

Archwiliwch

A view of a lake with mountains in the background. There are some people walking down a path and others can be seen in the distance.

Straeon

Golwg oddi uchod o gynhadledd gyda thyrfa o bobl yn edrych i fyny ac yn chwifio. Mae byrddau crwn gyda chadeiriau a baneri o amgylch y tu allan. Mae grisiau a ffenestr yn edrych allan i ardal goediog yn y cefndir.

Digwyddiadau

Image of a pink piggy bank with a coin halfway out of the coin slot and other coins around the piggy bank.

Cyfleoedd Ariannu