Mae’r sector ieuenctid yng Nghymru yn amrywiol ac yn eang iawn, ac mae sefydliadau’n amrywio o ran eu maint a’u ffocws, a ph’un a ydynt yn y sectorau statudol a gwirfoddol, gan gynnwys sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw.
Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr o sefydliadau ieuenctid Cymru a gwasanaethau ieuenctid awdurdod lleol gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid trawsnewidiol sy’n newid bywydau dramor, gan roi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau newydd a chael profiad o ddiwylliannau ac ieithoedd newydd.
Mae Taith yn cynnig cyfleoedd heb ei ail i bobl ifanc o Gymru. Os ydych chi’n cael trafferth gyda’r cais neu’n poeni am agweddau ymarferol ar gyflwyno, gallwch chi bob amser anfon e-bost at dîm cymorth Taith. Rwy’n teimlo bod tîm Taith wedi cynnig cymorth parhaus, sy’n ei gwneud hi’n llawer haws ymgeisio a gweithredu’r prosiect.
Gundija Zandersona, Kokoro Arts ar ôl symudedd i Gyprus
Gall profiadau rhyngwladol newid bywydau. Mae rhaglenni symudedd Taith yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu’r sgiliau bywyd a’r galluoedd allweddol mae eu hangen iddynt ffynnu, wrth gynyddu hyder a chynyddu uchelgeisiau i ddysgwyr.
Mae Taith yn rhaglen gynhwysol sy’n cynnig cymorth ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd dan anfantais ac anghenion dysgu ychwanegol, gan alluogi’r rhai hynny â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau trawsnewidiol. Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau cymwys i unigolion a grwpiau, mae cyllid ar gael i ddysgwyr o bob math.
Mae’r gwerthoedd sydd wrth wraidd cyfnewidion rhyngwladol yn cyd-fynd yn agos â’r pum colofn o waith ieuenctid:
Mae rhaglenni symudedd rhyngwladol yn galluogi sefydliadau i greu cyfleoedd mewn ffordd sy’n gwbl gyfranogol, gan ddatblygu rhaglen o weithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer a chan bobl ifanc, a chan ganolbwyntio ar y meysydd hynny maent am eu harchwilio, dysgu amdanynt a’u datblygu fwyaf. Mae rhaglenni symudedd rhyngwladol yn galluogi pobl ifanc i brofi diwylliannau ac amgylcheddau newydd, datblygu sgiliau a galluoedd allweddol, a’u darparu â chyfleoedd i roi cynnig ar bethau newydd a dysgu faint maent yn gallu ei gyflawni mewn gwirionedd.
I staff a gwirfoddolwyr, gall y cyfle i ddysgu arfer gorau gan bartneriaid rhyngwladol fod yn hynod werthfawr. Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i staff ddysgu drwy amrywiaeth o opsiynau, megis cyrsiau hyfforddi, cysgodi swyddi a phrosiectau datblygu systemau ar Lwybr 1, i brosiectau cydweithio strategol sy’n dymuno nodi sector mewn angen ar Lwybr 2.
Sefydliadau sy’n gymwys i gyflwyno cais:
Sefydliadau a grwpiau sydd wedi’u rheoleiddio a’u cofrestru yng Nghymru ac sy’n weithredol yno sy’n gweithio ym maes ieuenctid, gan gynnwys:
Gall sefydliadau sy’n gweithio ym maes Ieuenctid nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu wedi’u cofrestru yng Nghymru ond sy’n weithredol ledled y DU, gyda phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgaredd yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i gyflwyno cais ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Mae angen cyflwyno tystiolaeth foddhaus i ddangos y canlynol:
Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol â galwad cyllid Llwybr 1 Taith (2023) ar gyfer y sector Ieuenctid:
Llwybr 1 - IeuenctidMae’r Canllaw Craidd Rhaglen Taith yn rhoi rhagor o wybodaeth i sefydliadau ac unigolion am Taith, sut mae’r rhaglen yn gweithio a phwy sy’n gymwys i wneud cais am, a chael, cyllid:
2023 Canllaw Craidd y Rhaglen