Mae partneriaethau rhyngwladol yn helpu athrawon a staff ysgolion ddod â safbwynt rhyngwladol i’r ysgol a’r cwricwlwm, gan roi’r cyfle i ddisgyblion ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o ddiwylliannau ac ieithoedd newydd.
Rwy’n gwneud cais am gyrsiau rhyngwladol yn y brifysgol ac fe wnaeth y daith hon fy ysbrydoli i fod eisiau dysgu mwy o ieithoedd, archwilio mwy o wledydd… mae’n gwneud ichi sefyll allan oddi wrth fyfyrwyr eraill. Mae’n gyfle mor anhygoel.
Sevin, Blwyddyn 13, disgybl yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen ar ei symudedd i Dwrci ag ariannwyd gan Taith
Dangoswyd bod gwaith rhyngwladol yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau personol a dysgu disgyblion, ac ar eu cyflogadwyedd, yn enwedig y rhai hynny sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig. Mae rhaglenni symudedd rhyngwladol yn galluogi disgyblion i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau, a chael profiad o ddiwylliannau ac ieithoedd newydd, wrth hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymreig ym mhedwar ban byd. Mae disgyblion yn dychwelyd gyda mwy o hyder, annibyniaeth ac ysgogiad i ddysgu.
Mae Taith yn ymrwymedig i wella mynediad i weithgareddau rhyngwladol i bobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol a phobl o gefndiroedd difreintiedig. Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig ac i gyfranogwyr, gan gynnwys staff, ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau
Mae rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yn cysylltu’n uniongyrchol â phedwar diben y cwricwlwm newydd i Gymru. Drwy weithio mewn partneriaethau ar draws y byd, gall athrawon ddatblygu syniadau a ffyrdd o addysgu newydd, a darganfod adnoddau a deunyddiau newydd i’w cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth i gyfoethogi dysgu eu disgyblion a datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae cyfleoedd ar gael hefyd i staff nad ydynt yn dysgu i gydweithio’n rhyngwladol, gan hwyluso arfer gorau, cyfnewid gwybodaeth, datblygu gyrfa a datblygiad proffesiynol.
Bydden ni’n bendant yn argymell gwneud cais am arian Taith gan fod yr effaith mae wedi ei gael arnom ni fel athrawon, plant, ysgol a’r gymuned wedi bod yn fwy na’r disgwyl.
Mr Jones, athro yn Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi, ar symudedd i Lesotho ag ariannwyd gan Taith
Mae’r ddogfen hon yn ymwneud yn benodol â galwad cyllid ar gyfer Llwybr 1 Taith (2023) ar gyfer sector yr Ysgolion:
Llwybr 1 – YsgolionMae’r Canllaw Craidd Rhaglen Taith yn rhoi rhagor o wybodaeth i sefydliadau ac unigolion am Taith, sut mae’r rhaglen yn gweithio a phwy sy’n gymwys i wneud cais am, a chael, cyllid:
2023 Canllaw Craidd y Rhaglen