Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Lesotho

Astudiaeth Achos ‘Balchder Bro’ ar gyfer partneriaeth ysgolion ‘Glan-y-Moyeni’

Grŵp o ddisgyblion yn dal baneri Cymru a Lesotho. Maen nhw’n sefyll tu allan i adeilad gyda’i siwtcesys.

Mae ‘Glan-y-Moyeni’ yn bartneriaeth sydd wedi bod mewn lle ers 2008 rhwng Ysgol Glan-y-Môr ym Mhorth Tywyn (Cymru) ac Ysgol Uwchradd Moyeni yn Quthing (Lesotho). Mae’r bartneriaeth gynhwysol hon yn seiliedig ar degwch a dysgu oddi wrth ei gilydd, gan archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng diwylliannau, amgylcheddau a ffyrdd o fyw wrth wynebu datblygiadau byd-eang tebyg. Ym mis Chwefror 2024, ymwelodd disgyblion o Ysgol Glan-y-Môr ag Ysgol Uwchradd Moyeni.  Mae Angélique Perrault, Athrawes yng Nglan-y-Môr, yn dweud mwy wrthym:

Beth wnaethoch chi fel rhan o’ch Prosiect Taith?

Roedd ein prosiect Taith yn rhan o brosiect consortiwm sy’n cael ei gynnal gan Dolen Cymru Lesotho, o’r enw ‘Balchder Bro’.  Trwy ein partneriaeth cafodd disgyblion a staff Ysgol Glan-y-Môr gyfle i ymweld ag Ysgol Uwchradd Moyeni.  Rhoddodd yr ymweliad lawer o brofiadau newydd ac unigryw i ni.

Un o’r rhain oedd pan ddysgodd athrawon a disgyblion Basotho ni sut i wneud offerynnau cerdd traddodiadol a’u chwarae. Gwnaeth ein disgyblion gymryd rhan mewn gweithdy i ddysgu sut roedd yr offerynnau cerdd hyn yn cael eu defnyddio gan fugeiliaid a bugeiliaid ifanc, a sut y cawsant eu gwneud gan ddefnyddio adnoddau naturiol yn bennaf megis canghennau a glaswellt trwchus.

Grŵp o bobl ifanc Basotho yn cynnal gweithdy i ddysgu am offerynnau cerddorol.

Roedd yr arbenigedd a ddangoswyd gan y grŵp o Basotho ifanc a’u hathrawon wrth iddynt arwain y gweithdy yn drawiadol iawn. Cynhyrchodd yn naturiol frwdfrydedd a chwilfrydedd yn ein disgyblion a’u cyfoedion Basotho, gan arwain at awydd i wneud a chwarae’r offerynnau hyn gyda’i gilydd – y gorau y gallem, wrth gwrs, gan ei fod yn sgil anodd ei feistroli mewn amser byr!

Canlyniad terfynol y gweithgaredd hwn oedd cyfuno dawns werin Gymreig, gan ddefnyddio alaw’r Mamokhorong (yr offerynnau cerdd a grëwyd) fel ‘trac sain’. Gwyddom fod y cyfuniad ‘artistig’ hwn yn mynd i fod yn her: nid perffeithrwydd oedd y nod, cael hwyl yn cymysgu ein traddodiadau cerddorol oedd!

Roedd effaith y profiad hwn ar ein hysgol bartner hefyd yn gadarnhaol a dywedodd Mme Labo Kometsi, athrawes yn Ysgol Uwchradd Moyeni:

Mae’r offerynnau hyn wedi dysgu ein disgyblion pa mor amrywiol yw ein diwylliannau ni waeth beth fo lliw ein croen, ac mae hynny wedi ein dysgu i werthfawrogi ein gilydd. Mae partneriaeth Glan-y-Moyeni wedi ein hysbrydoli i fod yn weithgar iawn a chymryd rhan mewn prosiectau fel hyn. Rydym wedi penderfynu cadw ein hofferynnau cerdd yn yr ysgol er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Yn ogystal â’r gweithdai cerddorol, treuliwyd amser hefyd yn profi addysg Basotho lle cawsom gyfleoedd i fynychu gwersi amrywiol megis amaethyddiaeth, astudiaethau datblygu a chyfrifeg, pynciau sy’n newydd i ni yng Nghymru. Trodd rhai o’r gwersi hyn yn addysgu dwyochrog.  Llwyddwyd i ddysgu rhywfaint o Sesotho, iaith Lesotho, a rhannu ein Cymraeg.  Manteisiwyd ar y cyfle i rannu ein hoff eiriau Cymraeg a Basotho er mwyn i ni allu ymgorffori’r rhain ar furlun cydweithredol roeddem yn bwriadu ei wneud pan ymwelodd ein cyfoedion Basotho â ni yng Nghymru. Arweiniodd hyn at berfformio a dysgu ein hanthemau cenedlaethol, “Hen Wlad Fy Nhadau” a “Lesotho Fatse La Bontata Rona”, sy’n cyfieithu i “The Land of My Fathers” a “Lesotho, Land of Our Fathers”; tebygrwydd syndod arall a ddaeth â’r dysgwyr ifanc hyd yn oed yn fwy at ei gilydd, yn gysylltiedig.

Diweddglo’r ymweliad cyfnewid â Lesotho oedd Mokete, digwyddiad dathlu tebyg i Eisteddfod yn arddull Basotho, lle bu’r holl ysgolion a gymerodd ran yn arddangos eu dawnsio, canu, llefaru a rhagor. Roedd teimlad gwirioneddol o fod yn rhan o rywbeth ystyrlon, rhywbeth mawr, yn amlwg.

Disgyblion o Gymru a Lesotho gyda’i gilydd o flaen murlun y wnaethon nhw gyda’i gilydd.
A oedd unrhyw gyfleoedd dysgu eraill i’r disgyblion o’r bartneriaeth hon?

Nid yn unig y dysgodd ein disgyblion am ddiwylliant Basotho a pha mor falch ydyn nhw o’u diwylliant yn ystod yr ymweliad hwn, fe ddysgon nhw gymaint hefyd am eu diwylliant Cymreig eu hunain. Buont yn archwilio eu diwylliant a beth mae bod yn Gymry yn ei olygu cyn ei gyflwyno i ddisgyblion Basotho.  Gwelsom fod ein disgyblion wedi dod yn fwy balch o fod yn Gymry ac fe roddodd hwb i bawb a gymerodd ran. Gyda’n gilydd fe ddysgon ni sut i ganu gyda balchder, a chawsom gyfle i brofi’r undod a gynhyrchir yn naturiol.

Ym mis Gorffennaf 2024 daeth criw o ddysgwyr Basotho i ymweld â’n disgyblion yng Nghymru. Roedd yr ymweliad dwyochrog yn caniatáu i fwy o’n disgyblion gwrdd â’i gilydd a chreu cyfeillgarwch a fydd yn para am oes.  Yn ystod eu hymweliad, creodd disgyblion y ddwy ysgol eu murlun i symboleiddio Basotho a threftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru.  Roedd y darluniau, y cynrychioliadau a’r gwaith celf yn seiliedig ar y cwestiynau a ofynnwyd: ‘Beth mae’n ei olygu i fod yn Gymry/Basotho? Sut byddech chi’n cynrychioli eich perthyn i’ch diwylliant? Beth hoffech chi i eraill ei wybod am eich diwylliant?’.  Mae’r murlun yn gyfoeth o symbolau diwylliannol, ac roedd gan holl gyfranogwyr y prosiect ymdeimlad gwirioneddol o berthyn, gan gymryd rhan mewn canlyniad prosiect cydweithredol diriaethol.  Mae gennym bellach adnodd diriaethol arall i gynrychioli ‘Glan-y-Moyeni’ sy’n weladwy ar gyfer cymuned ysgol Glan-y-Môr a’i hymwelwyr yn y dyfodol er mwyn gwerthfawrogi a chodi chwilfrydedd ar gyfer ein partneriaeth barhaus a chynaliadwy.

A oedd unrhyw uchafbwyntiau unigol neu straeon llwyddiant o’r symudedd?

Amlygodd rhai dysgwyr Glan-y-Môr agwedd ofnus tuag at yr ysgol yn gyffredinol, ynghyd â theimlo llawn ofn o feddwl o gyfrannu at drafodaeth ddosbarth, cyflwyniadau grŵp fel rhan o’u cyrsiau TGAU. Gwirfoddolodd y disgyblion hyn i gael eu hystyried yn rhan o ymweliadau cyfnewid ‘Glan-y-Moyeni’, gan gydnabod y byddai’r profiad hwn yn heriol iddynt.  Fodd bynnag, roeddent yn teimlo bod cymryd rhan weithredol yn y bartneriaeth a’i symudedd yn ffordd ddiogel o oresgyn eu hofnau, i fachu ar y cyfle i brofi rhywbeth newydd, rhywbeth na chaiff ei gyflwyno iddynt byth eto o bosibl. Fel addysgwyr, buom yn gweithio’n agos gyda nhw, gan gynnig sesiynau paratoi emosiynol wythnosol a’u hyfforddi i ddod yn fwy hyderus. Cynlluniwyd gweithgareddau’r prosiect sy’n gysylltiedig â symudedd hefyd i’w hannog nhw, a’r dysgwyr eraill yn y grŵp, i fod yn flaengar, waeth pa mor fach, ar ffurf bod yn arweinydd tîm am ddiwrnod neu fod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweithgaredd yn cael ei chasglu.

Dau ddisgybl o Lesotho gyda’i theulu cynnal Cymraeg.

Tra yn Lesotho, roedd yn galonogol eu gweld yn ymgysylltu â’u cyfoedion Basotho gyda llawer llai o bryder. Gwnaeth dau ohonynt hyd yn oed gymryd yr awenau i arwain gwers Gymraeg fer i griw bach o fyfyrwyr Basotho! Roeddent yn gallu estyn allan i gael sicrwydd pan oedd angen, heb gael eu hannog, yn gallu mynegi’n hyderus yr hyn a oedd yn heriol, ond yn bwysicaf oll, pa mor hapus a da yr oeddent yn teimlo amdanynt eu hunain ar ôl cymryd rhan lawn. Dywedodd un myfyriwr ar ôl gweld lluniau o’r foment honno: “Doeddwn i ddim yn gwybod y gallwn i wenu ac edrych yn hapus!’ Teimlad gwerthfawr i’w gael.

Cafodd y gymuned leol hefyd fudd aruthrol o’r bartneriaeth a’i symudiadau.  Croesawodd y teuluoedd lletya ddisgyblion Basotho i’w bywyd cartref a oedd yn ddyrchafol ac yn caniatáu iddynt wneud ffrindiau am oes.  Bydd yn rhan o ‘hanes y teulu’ fel y dywedodd un rhiant o Basotho unwaith.

Disgyblion o Gymru a Lesotho yn dawnsio gyda’i gilydd mewn dosbarth.
Pam fod profiadau rhyngwladol yn bwysig i ddisgyblion yng Nghymru?

Yn syml, maen nhw’n agor drysau. Dros y blynyddoedd, ac yn enwedig y tair blynedd diwethaf gyda Taith, mae ‘Glan-y-Moyeni’ wedi rhoi’r teimlad anhygoel i bobl ifanc Cymru a Lesotho, eu haddysgwyr a’u cymunedau, fod yna griw o bobl a ffrindiau wedi dod at ei gilydd.  Mae wedi bod yn gyfle i rannu diddordebau tebyg ac i werthfawrogi pa heriau all fod yn ein hamgylcheddau diwylliannol priodol.

Maent yn hybu hunan-barch, hunan-barch unrhyw un. Mae rhoi’r cyfle i bobl ifanc Cymru a Lesotho fod yn rhan weithredol o brofiad rhyngwladol, partneriaeth gydweithredol, yn gwneud llawer o bethau yn bosib pan fyddant wedi ymddangos yn amhosibl ar y dechrau. Waeth beth fo’u sgiliau a’u galluoedd, pa mor bryderus y maent yn teimlo, maent yn wynebu’n ddiogel i fod yn llysgennad dros eu gwlad eu hunain a’u diwylliant eu hunain i ddechrau. Mae hyn yn esblygu’n araf i gynrychioli eu hunain mewn amgylchedd anhysbys, gan ddatblygu strategaethau ymdopi personol i sefyll yn gryf: maen nhw, yn isymwybodol, yn dysgu cymaint amdanyn nhw eu hunain a’u cryfderau.

Sut mae profiadau rhyngwladol yn cefnogi ysgolion yng Nghymru?

Mae profiadau rhyngwladol yn amlygu dysgwyr, eu haddysgwyr a chymunedau i ddiwylliannau, ieithoedd newydd, heriau newydd ac yn annog parch at amrywiaeth mewn ysgolion. Maent yn agor eu meddyliau gan eu galluogi i werthfawrogi a pharchu diwylliannau newydd, ac felly, eu diwylliant eu hunain yn y pen draw. Mae prosiect Taith a’i weithgareddau yn ein galluogi i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i nod o ddatblygu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a’r byd tra, yn ein prosiect Taith diweddaraf o ‘Balchder Bro’, yn gweithio gyda Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.  Mae hefyd yn gyfle i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol.

Disgyblion o Gymru a Lesotho yn gweithio ar ei murlun cydweithredol.

Mae lleoliad unigryw profiadau rhyngwladol ysgolion yn galluogi pobl go iawn i gwrdd â phobl go iawn, i weithio ar nod cyffredin a rennir sy’n bwysig i bawb sy’n cymryd rhan.  Ni ellir dod o hyd i brofiadau fel hyn mewn unrhyw asiantaeth deithio.  Mae ein hymwneud â phrofiad rhyngwladol fel ‘Glan-y-Moyeni’ wedi rhoi’r ewyllys, y dewrder a’r chwilfrydedd i rai o’n dysgwyr a’n haddysgwyr i archwilio rhannau eraill o’u gwlad eu hunain, gwledydd eraill a chwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau.

Beth fyddai eich un darn o gyngor i ysgolion eraill yng Nghymru sy’n ystyried gwneud cais am gyllid Taith?

Cydiwch yn y cyfle hwn!

Gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun cydweithredol, fel bod gan ysgolion Cymru, dysgwyr a’u cymheiriaid rhyngwladol rywbeth i’w roi, i’w rannu ac i ennill yn gyfnewid.

Gwerthfawrogwch fod cymryd rhan ym mhrosiect Taith yn gofyn am reoli, arwain a monitro prosiect a bod ei ganlyniadau’n ychwanegol at addysgu’r athro o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, cofiwch bob amser yr hyn a ddaw i’r dysgwyr a’r addysgwyr yn eich ysgol. Bydd eich ymrwymiad i brofiadau rhyngwladol Taith a’ch cred ynddynt yn dod â rhywbeth unigryw a fydd yn para am oes.

Mae ein profiad ‘Glan-y-Moyeni’ wedi grymuso’n foesegol yr holl ddysgwyr, addysgwyr, eu teuluoedd, a’r cymunedau lleol a gymerodd ran. Heb os, mae wedi agor eu meddyliau, gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cymryd rhan weithredol yn y byd y maent yn byw ynddo. Roedd pob dysgwr yn aelod o dîm. Yr hyn sydd wedi dod â nhw at ei gilydd oedd y syniad gwych y gallent gwrdd â phobl go iawn o ddwy ochr y byd, gwneud ffrindiau â’i gilydd, cael hwyl, a threulio amser o ansawdd gyda’i gilydd wyneb yn wyneb. Maent wedi sylweddoli eu bod yn dod o wahanol rannau o’r byd ac wedi sylweddoli’n bragmataidd fod ganddynt lawer o ddiddordebau cyffredin ac eisiau’r gorau iddyn nhw eu hunain ac i’w gilydd: hapusrwydd, balchder yn eu cefndir diwylliannol, profiadau cadarnhaol a bod yn iach.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.