Fy maes ymchwil yw Roboteg Gwasanaethau Dynolffurf (HSR) ar gyfer gofal iechyd a lletygarwch. Ym maes gofal iechyd, mae mwy o bobl yn gobeithio y gall robotiaid ddod yn gymdeithion i bobl, ac y gall robotiaid fod yn gwmnïaeth yn hytrach na bod yn rhyngweithio yn unig. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio digideiddio cyfrifiadurol i roi deallusrwydd tebyg i bobl i robotiaid gan ganiatáu i bobl deimlo yn ystod y broses o ryngweithio â’r robot dynolffurf a hefyd i helpu o ran cynorthwyo bodau dynol i gwblhau tasgau syml yn well.
Nid yw profi robotiaid yn y labordy yn ddigon at ddibenion fy ymchwil. Mae’n hanfodol archwilio â rhanddeiliaid yn y diwydiant gofal iechyd, a chael adborth ganddynt, er mwyn deall yn iawn sut y gall robotiaid dynolffurf chwarae eu rhan eu hunain. Yn ffodus, o dan arweiniad Dr Esyin Chew, rydym wedi llwyddo i ddatblygu perthynas gydweithredol ag Ysbyty ALTY ym Malaysia a chawsom gyfle i roi robotiaid gwasanaethau, go iawn, mewn amgylchedd meddygol gwirioneddol. Diolch i gyllid gan Taith, teithiais i Malaysia am bythefnos i gynnal ymchwil i weld a all robotiaid fod yn effeithiol ym maes gofal iechyd a dod yn gymdeithion i bobl.
Cynhyrchodd y gweithgaredd hwn nid yn unig ddata a deunyddiau ymchwil sylweddol ar gyfer fy maes ymchwil, ond bu iddo hefyd greu rhagor o gyfleoedd cydweithio ar gyfer Canolfan Roboteg EUREKA ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ystod y digwyddiad hwn, gwelsom sut y defnyddiodd ein partner yn Malaysia sef ALTY, Robotiaid HSR, i roi egni cynorthwyol i’w cymuned gofal iechyd. Cawsom hefyd bersbectif ymarferol nyrsys ar sut y gall robotiaid eu helpu i leihau llwyth gwaith ailadroddus mewn cyd-destunau bywyd go iawn. Mae’r data hyn nid yn unig yn cyfrannu at fy ymchwil ar archwilio gallu robotiaid dynolffurf i fod yn gwmnïaeth yn y diwydiant gofal iechyd, ond hefyd yn fy helpu i ddeall anghenion a phrofiadau gwirioneddol y nyrsys hyn yn eu gwaith. Rhoddais hyfforddiant a chymorth o ran TG i’r nyrsys sy’n integreiddio’r robotiaid. Rwy’n teimlo bod fy ngwaith PhD yn cael effaith gyhoeddus wirioneddol drwy’r cyfle hwn.
Rhoddodd hyn y cyfle hefyd i mi rannu ymchwil a chyfnewid gwybodaeth gyda myfyrwyr rhagorol o brifysgolion enwog eraill ym Malaysia. Trwy’r gweithgareddau hyn, cefais nid yn unig y cyfle i ddysgu am lwybrau ymchwil blaengar ymchwilwyr medrus eraill, ond cefais adborth cadarnhaol ganddynt ar fy ymchwil fy hun.
Gall gweithio yn amgylchedd y diwydiant go iawn nid yn unig helpu fy ymchwil o ran casglu data gwerthfawr, ond gall hefyd fy ngalluogi i ddeall yn drwyadl pa broblemau a heriau y dylai fy ymchwil ganolbwyntio ar eu datrys o safbwynt rhanddeiliaid fel nyrsys. Trwy’r sesiynau rhannu ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, byddaf yn gallu cael dealltwriaeth o lwybrau ymchwil uwch. Bydd cael dysgu am waith ymchwilwyr rhagorol eraill yn cyfrannu’n fawr at ddatblygiad fy ymchwil ac yn ehangu fy ngwybodaeth yn y maes.
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi platfform i mi arddangos fy ngwaith ymchwil a derbyn cydnabyddiaeth gan fy nghyfoedion. Gall yr adborth cadarnhaol a’r cysylltiadau a sefydlwyd gydag ymchwilwyr o brifysgolion mawreddog eraill ym Malaysia agor drysau, o bosib, ar gyfer cydweithrediadau, cyhoeddiadau, a chyfleoedd o ran gyrfa yn y dyfodol.
Rhan orau fy mhrofiad oedd gweld y Robotiaid HSR yn cael eu defnyddio yn Ysbyty ALTY gan weithio ochr yn ochr â nyrsys i roi cymorth i gleifion mewn angen, a chreu llawenydd. Roedd yn hynod gweld nyrs, oedd heb unrhyw brofiad o weithio â chyfrifiaduron a robotiaid, yn cydweithio â robot. Dyma foment a fydd yn aros yn fy nghof am byth. Yn ogystal, mae’r cyfnewid diwylliant rhwng Cymru-Malaysia yn syfrdanol i mi, a minnau’n fyfyriwr Tsieineaidd sy’n astudio yng Nghymru.