Cysylltwch
Ymweliad Addysg Bellach i Seland Newydd

Coleg Gŵyr yn ymweld â Seland Newydd

Dau ddyn a dwy fenyw yn sefyll o flaen dwy faner wrth wenu at y camera.
Mae Constance Henry yn Ymarferydd Sgiliau Hanfodol yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Ym mis Chwefror 2023, cynhaliodd ymweliad staff a ariannwyd gan Taith â’r Universal College of Learning yn Seland Newydd, i ddysgu am eu darpariaeth o hyfforddiant digidol, gyda ffocws penodol ar adnoddau i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. 
Beth oedd eich nodau ac amcanion ar gyfer yr ymweliad?

Pan oeddwn yn chwilio am brosiect, roedd gennyf dair prif fenter mewn golwg: 

  1. Roeddwn eisiau gweithio gyda sefydliad a oedd yn canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol a sefydliad a oedd mor uchel â hynny ar ei agenda. Roedd UCOL yn un o dri sefydliad yn unig yn hemisffer y De a oedd â nod ansawdd sy’n gyfeillgar i ddyslecsia, felly roeddwn i eisiau gweld sut y digwyddodd hynny, pa brosesau a gymerwyd ganddynt, yr effaith y mae wedi’i chael, a beth mae wedi’i wneud ar gyfer eu dysgwyr.
  2. Mae fy ngwaith yn cynnwys llawer o hyfforddiant digidol i staff, felly roeddwn i wir eisiau gweld sefydliad sy’n edrych ar wneud hynny ac yn datblygu eu staff yn fewnol. Fe ges i weithio gyda’u timau dysgu digidol i weld sut maen nhw wedi bod yn gwneud hynny.
  3. Edrych ar sut maen nhw wedi datblygu ar ôl COVID gyda’u dull dysgu cyfunol a’r sgiliau allweddol maen nhw wedi’u dysgu ar gyfer dysgu o bell.
A wnaethoch chi gyflawni’r nodau hyn?

Do, llwyddais i wneud hynny i gyd. Dysgais lawer am y chwarter marciau sy’n gyfeillgar i ddyslecsia. Rwy’n gweithio gyda’r tîm niwroamrywiaeth, i roi rhai o’r newidiadau hyn ar waith ynghyd â hyfforddiant gan ddefnyddio ‘Microsoft Educator’ a ‘Made by Dyslexia’ i helpu i godi ymwybyddiaeth. 

Dau ddyn a dwy fenyw yn sefyll o flaen dwy faner wrth wenu at y camera.
A oedd unrhyw effeithiau ychwanegol o ganlyniad i’r ymweliad?

Ie, llawer mewn gwirionedd. Nid yn unig y cynyddodd fy hyder , ond datblygais fy sgiliau cyfathrebu hefyd. Rwy’n meddwl weithiau y gallwch chi gael ychydig o ‘imposter syndrome’ a meddwl tybed ‘ydw i wir yn haeddu bod yma?’ ‘Ydw i’n gwybod digon?’ Ond i ddarganfod bod gen i sgiliau a galluoedd, fel y gallwn i rannu fy ngwybodaeth gyda nhw ac nid dim ond dysgu ganddyn nhw,  fe wnaeth hynny wir gynyddu fy hyder. 

Menyw yn gwenu wrth dal llyfryn 'Dyslexia Voice'
Pam ydych chi’n meddwl bod profiadau rhyngwladol yn bwysig i staff addysg yng Nghymru?

Rwy’n meddwl mai rhannu arfer gorau a syniadau ydyw. Mae dod o hyd i sefydliadau eraill sy’n gwneud pethau’n eithriadol o dda a’r hyn a ddysgir ganddynt yn allweddol, oherwydd wedyn gallwn ddod â hwy yn ôl a’i ledaenu, nid yn unig o fewn ein sefydliadau ein hunain a’n hyfforddiant staff, ond hefyd ei ledaenu ymhellach i ffwrdd trwy gynnal gweithdai, seminarau a chynadleddau a gallu trosglwyddo’r ddysg honno. 

Rwy’n meddwl ei fod yn wych i bobl sy’n gweithio ym myd addysg. Mae yna lawer o ddysgu am wahanol safbwyntiau a syniadau, nad ydych chi’n ei gael cymaint mewn gwirionedd os ydych chi’n edrych yn fewnol yng Nghymru yn unig. Mae Taith yn agor y drysau i gyfleoedd byd-eang ac mae hi mor fuddiol. 

A fyddai gennych unrhyw gyngor i sefydliadau neu unigolion yng Nghymru sy’n ystyried cymryd rhan yng ngweithgaredd Taith neu wneud cais am gyllid?

Yn bendant, ewch amdani. Os ydych chi’n meddwl amdano a’ch bod ar y ffens, byddwn yn mynd amdani oherwydd bod y cyfleoedd ledled y byd; mae cymaint o wahanol bethau ar gael. Mae cymaint o bethau y gallwch eu dysgu gan bobl a chan sefydliadau, felly mae’n gyfle mor dda i ddysgu, rhannu arfer gorau a thyfu fel staff ac fel dysgwr. 

Gwnewch yn siŵr, os ydych chi’n chwilio am brosiect, gwelwch beth sy’n cyd-fynd â’ch meysydd diddordeb, beth allwch chi ddod yn ôl, beth sy’n mynd i gael yr effaith fwyaf ar eich sefydliad neu’ch dysgwyr, a gwnewch yr ymchwil i ddarganfod ble mae’r bylchau hynny- treuliais wythnosau ac wythnosau yn penderfynu ar y lle gorau y gallwn o bosibl fynd iddo a cheisio cyrraedd yr holl feini prawf. Yna mae llawer o ymchwil yn mynd i mewn i hynny ac yn ei gwneud yn haws oherwydd nid ydych chi eisiau bod yn cael dysgu amhenodol yn unig – rwy’n meddwl bod hynny’n wirioneddol allweddol. 

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.